Hybu iechyd a llesiant plant, pobl ifanc a theuluoedd

URN: HSCCLD351
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu iechyd a llesiant plant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae'n pwysleisio dull holistaidd sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae'n gofyn i chi ganolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac eraill yn y sectorau iechyd, addysg, gwirfoddol a chymunedol er mwyn meithrin dewisiadau cadarnhaol am eu ffordd o fyw, annog cyfranogiad gweithredol, a chefnogi llesiant gydol oes plant.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i’w helpu i adnabod goblygiadau eu dewisiadau am eu ffordd o fyw yn y tymor byr a’r tymor hir
  2. darparu gwybodaeth hygyrch am iechyd, llesiant a maeth sydd wedi’i theilwra i gamau datblygiadol plant neu bobl ifanc
  3. cynllunio a defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar chwarae a phrofiadau bywyd go iawn i annog plant neu bobl ifanc i gymryd diddordeb mewn iechyd a llesiant
  4. annog teuluoedd i wneud penderfyniadau gwybodus am eu ffordd o fyw a'u llesiant, gan ystyried eu hamgylchiadau unigol
  5. cydnabod y dylanwadau diwylliannol a chymdeithasol ar iechyd a chefnogi teuluoedd i wneud newidiadau realistig a chynaliadwy
  6. hybu a thrafod manteision maeth cytbwys, hydradu, gweithgarwch corfforol, a gorffwys ar ffyrdd iach o fyw
  7. defnyddio amser bwyd, gweithgareddau corfforol ac adegau rhoi gofal fel cyfleoedd i atgyfnerthu dewisiadau iechyd a llesiant
  8. cefnogi annibyniaeth plant neu bobl ifanc i wneud dewisiadau sy’n ymwybodol o iechyd
  9. gweithio â phlant neu bobl ifanc a theuluoedd i osod nodau iechyd a llesiant y gellir eu cyflawni
  10. adnabod a dathlu’r cynnydd sy’n cael ei wneud gan blant neu bobl ifanc a theuluoedd o ran mabwysiadau ffyrdd mwy iach o fyw
  11. gweithio ag eraill ym maes iechyd, addysg a’r gymuned i hybu a chynnal iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc
  12. adnabod a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy’n effeithio ar blant neu bobl ifanc a theuluoedd
  13. creu amgylcheddau cynhwysol lle mae teuluoedd yn teimlo'u bod yn cael eu cefnogi i drafod eu hanghenion iechyd a llesiant
  14. sicrhau bod teuluoedd yn gwybod sut mae cael gafael ar wasanaethau cymorth ychwanegol  
  15. myfyrio ar safbwyntiau plant neu bobl ifanc a theuluoedd wrth drafod dewisiadau iechyd a llesiant
  16. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd
  17. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch hybu iechyd, gan gynnwys diet, gweithgarwch corfforol a llesiant, a sut mae adolygu’r ymchwil hwnnw  
  2. rôl hydradu a maeth cytbwys o ran twf, datblygiad ac iechyd plant neu bobl ifanc yn y tymor hir
  3. arwyddion diffyg maeth a dadhydradu mewn plant neu bobl ifanc
  4. sut mae dewisiadau am ffordd o fyw yn effeithio ar gyflyrau iechyd a rôl ymyrryd yn gynnar
  5. pwysigrwydd datblygiadol gweithgarwch corfforol a chwarae yn yr awyr agored
  6. sut mae dulliau holistaidd o fyw'n iach yn cynnwys iechyd meddwl, rheoleiddio emosiynol a llesiant emosiynol
  7. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd
  8. sut mae cyfathrebu am iechyd a llesiant mewn ffyrdd sy’n annog ac yn grymuso plant neu bobl ifanc a theuluoedd
  9. sut mae addasu cyngor a chymorth i gyd-fynd â chefndiroedd teuluol, diwylliannau a ffactorau economaidd-gymdeithasol amrywiol
  10. pwysigrwydd gwrando a gwerthfawrogi safbwyntiau teuluoedd wrth hybu byw’n iach
  11. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd
  12. yr heriau y gall teuluoedd eu hwynebu wrth wneud newidiadau i'w ffordd o fyw a sut mae darparu cymorth ymarferol heb feirniadu
  13. sut mae cymell ac annog teuluoedd i wneud newidiadau cynaliadwy cadarnhaol i’w hiechyd a llesiant
  14. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd
  15. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd
  16. pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd  
  17. ffynonellau cymorth lleol a chenedlaethol, gan gynnwys gwasanaethau ar gyfer maeth, iechyd corfforol, iechyd meddwl, a llesiant
  18. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd
  19. theorïau sy’n berthnasol i iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd  
  20. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd  
  21. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd  
  22. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd, a sut i fynd i'r afael â hyn
  23. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu mewn perthynas ag iechyd a llesiant plant neu bobl ifanc a theuluoedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD351 

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Llesiant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu