Hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc

URN: HSCCLD350
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys eu cefnogi i ystyried eu hiechyd cyffredinol eu hunain, a’r ffactorau a all effeithio arno. Mae hefyd yn cynnwys hybu llesiant plant a phobl ifanc a’u cefnogi i reoli anghenion iechyd corfforol a meddyliol penodol sy’n codi.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth gefnogi plant neu bobl ifanc â’u hiechyd corfforol a’u llesiant meddyliol eu hunain
  2. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant neu bobl ifanc
  3. cefnogi plant neu bobl ifanc i nodi a defnyddio strategaethau at ddibenion rheoleiddio emosiynol pan fyddant yn wynebu straen neu drallod
  4. meithrin perthynas wrth weithio â phlant neu bobl ifanc i hybu trafodaethau am eu hiechyd corfforol a’u llesiant meddyliol
  5. annog plant neu bobl ifanc i ddefnyddio'r adnoddau, y cymorth a'r wybodaeth sydd ar gael i hybu eu hiechyd corfforol a'u llesiant meddyliol eu hunain  
  6. gweithio mewn partneriaeth â phawb sy’n ymwneud â hyn i gytuno ar ganlyniadau a fydd yn gwella iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant neu bobl ifanc
  7. adolygu neu gwblhau asesiadau risg wrth weithio â phlant a phobl ifanc i hybu eu hiechyd corfforol a’u llesiant meddyliol  
  8. gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill i fynd i’r afael â gwrthdaro neu bryderon mewn perthynas â’u dewisiadau a’u hanghenion
  9. annog plant neu bobl ifanc i nodi a gwerthuso newidiadau yn eu datblygiad corfforol a thrafod unrhyw bryderon sydd ganddynt  
  10. rhoi cymorth i blant neu bobl ifanc drefnu a mynd i apwyntiadau i fynd i'r afael ag iechyd corfforol neu lesiant meddyliol  
  11. cwblhau cofnodion ac adroddiadau am iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant neu bobl ifanc
  12. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant neu bobl ifanc

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr effaith y gall oedran, cyfnod, datblygiad ac amgylchiadau personol plant a phobl ifanc ei chael ar eu gallu i gyfrannu a gwneud penderfyniadau am eu hiechyd corfforol a'u llesiant meddyliol eu hunain  
  2. pwysigrwydd sefydlogrwydd perthnasoedd ac effaith amharu, gan gynnwys amharu ar leoliad  
  3. ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygiad corfforol, emosiynol a seicolegol plant a phobl ifanc
  4. effaith niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  5. dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar iechyd corfforol a llesiant meddyliol  
  6. y camau i'w cymryd os byddwch yn gweld arwyddion a symptomau a allai awgrymu defnydd o sylweddau anghyfreithlon  
  7. sut mae cael gafael ar wybodaeth am iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc, a sut mae adolygu a gwerthuso’r wybodaeth honno
  8. ffyrdd o annog a chefnogi plant a phobl ifanc i hybu eu hiechyd corfforol a’u llesiant meddyliol eu hunain  
  9. ffyrdd o gefnogi plant a phobl ifanc i ddeall agweddau ar ofal iechyd personol, twf, a datblygiad rhywiol yn unol â'u hoedran, eu galluoedd, a lefel eu datblygiad a'u dealltwriaeth
  10. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  11. y mathau o adnoddau a chymorth ar gyfer hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  12. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  13. sut mae cwblhau’r asesiadau risg sydd eu hangen ar gyfer iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  14. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  15. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol plant a phobl ifanc wrth ddelio â'u hiechyd corfforol a'u llesiant meddyliol eu hunain
  16. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  17. sut mae cefnogi plant a phobl ifanc i reoli unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar lefel y cymorth sydd ei angen arnynt â’u hiechyd corfforol a’u llesiant meddyliol  
  18. theorïau sy’n berthnasol i iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  19. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  20. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  21. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  22. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  23. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc
  24. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu mewn perthynas ag iechyd corfforol a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD350

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Iechyd corfforol, Llesiant meddyliol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu