Hybu’r broses o gynllunio gofal neu gymorth
URN: HSCCLD35
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu’r broses gynllunio gydag unigolion. Mae hyn yn cynnwys asesu dewisiadau ac anghenion unigolion mewn perthynas â'u gofal neu gymorth, cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau gofal neu gymorth, a chyfrannu at adolygu'r cynlluniau hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth i unigolion
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth ar gyfer cynllunio gofal neu gymorth
- asesu dewisiadau, anghenion a dyheadau unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi’r canlyniadau gofal neu gymorth ar gyfer eu cynlluniau personol
- cefnogi annibyniaeth unigolion i sicrhau ymreolaeth, dewis a diogelwch
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi’r risgiau posibl a chefnogi cymryd risgiau cadarnhaol
- cyflawni’r gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth rydych chi’n gyfrifol amdanynt
- sicrhau bod cynlluniau gofal neu gymorth ar gael i unigolion ac i eraill
- monitro a nodi newidiadau yng ngofal neu gymorth unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a diweddaru cynlluniau gofal neu gymorth i fynd i’r afael â newidiadau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu’r broses o gynllunio gofal neu gymorth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau ar gyfer y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- sut mae ystyried dewisiadau ac anghenion unigolion wrth ddatblygu, gweithredu ac adolygu cynlluniau gofal neu gymorth
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- sut mae cefnogi unigolion ac eraill i gymryd rhan yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- sut mae cefnogi unigolion ac eraill i gymryd cyfrifoldeb dros hybu eu hiechyd, eu llesiant a'u gofal eu hunain
- dulliau i weithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ddarganfod beth sy'n bwysig iddynt yn eu bywydau a pham
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- sut mae asesu risg a chefnogi cymryd risgiau cadarnhaol yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- pwysigrwydd diweddaru cynlluniau gofal neu gymorth i adlewyrchu newidiadau o ran anghenion, dymuniadau ac amgylchiadau unigolion
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i gynllunio adolygiadau a nodi, mesur a gwerthuso canlyniadau
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cynllunio gofal neu gymorth
- damcaniaethau sy’n berthnasol i’r broses o gynllunio gofal neu gymorth
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu’r broses o gynllunio gofal neu gymorth
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu’r broses o gynllunio gofal neu gymorth
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu’r broses o gynllunio gofal neu gymorth
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod y broses o gynllunio gofal neu gymorth
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu’r broses o gynllunio gofal neu gymorth, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu yn y broses o gynllunio gofal neu gymorth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD35
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cynllunio gofal, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu