Hybu'r gwaith o ofalu am fabanod a phlant bach
URN: HSCCLD349
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion ar gyfer hybu gofal a datblygiad holistaidd babanod a phlant bach. Mae'n ymwneud â chwrdd â’u hanghenion corfforol, maethol a hylendid ar yr un pryd â sicrhau amgylchedd diogel a dymunol sy'n cefnogi eu llesiant a'u datblygiad emosiynol. Mae hefyd yn cynnwys pwysigrwydd adnabod ac ymateb i salwch, diogelu plant rhag niwed, a gweithio mewn partneriaeth ag eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac anghenion babanod neu blant bach ac eraill, a rhannu’r wybodaeth honno
- arsylwi ar ymgysylltiad babanod neu blant bach â phobl, gwrthrychau ac amgylcheddau i nodi a chefnogi eu dewisiadau, eu diddordebau a'u hanghenion
- ymateb i ddulliau cyfathrebu llafar a di-lafar babanod neu blant bach i ddeall eu dewisiadau a’u hanghenion
- cefnogi eraill i nodi ac ymateb i ddulliau cyfathrebu llafar a di-lafar babanod neu blant bach
- darparu profiadau ac amgylcheddau amlsynhwyraidd sy'n helpu babanod neu blant bach i archwilio, arbrofi a mynegi eu hunain
- paratoi, storio a darparu bwyd i fabanod neu blant bach yn unol â pholisi'r gweithle a gofynion yr unigolyn
- sicrhau y llwyddir i gwrdd â dewisiadau ac anghenion unigol babanod a phlant bach adeg bwydo a diddyfnu
- hybu cyfranogiad mewn arferion bwydo, diddyfnu a hunanofal, gan sicrhau bod cyflymder y rhain yn addas i fabanod neu blant bach a’u bod yn addas yn ddatblygiadol
- rhoi gofal emosiynol a chorfforol ymatebol a pharchus mewn ffyrdd sy’n sicrhau cysur ac urddas
- cefnogi datblygiad emosiynol a chorfforol babanod neu blant bach drwy eu hannog i symud, archwilio, a bod yn ymwybodol o’u cyrff
- adnabod ac ymateb i arwyddion corfforol babanod neu blant bach, gan sicrhau bod ganddynt ryddid i symud a gwneud dewisiadau
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau amgylcheddau diogel a dymunol
- rheoli risgiau a chefnogi babanod neu blant bach i gymryd risgiau cadarnhaol
- sefydlu arferion sy’n creu ymdeimlad o ddiogelwch ac yn cefnogi datblygiad perthnasoedd
- ymateb i drallod emosiynol, gan sicrhau bod babanod neu blant bach yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u cysuro mewn ffyrdd sy’n parchu eu dulliau ymdopi unigol
- annog babanod neu blant bach i fynegi eu hemosiynau
- defnyddio anogaeth a rhyngweithiadau cadarnhaol i gefnogi hunan-barch a hyder mewn babanod neu blant bach
- gosod ffiniau clir, parchus a chyson sy’n hybu llesiant ar yr un pryd â chaniatâu hunanfynegiant
- gweithio mewn partneriaeth â babanod neu blant bach ac eraill i rannu arsylwadau a chefnogi datblygiad a hawliau ym mhob rhan o’u bywydau
- monitro twf a datblygiad babanod neu blant bach ac adnabod amrywiadau yn eu cynnydd
- adnabod, ymateb ac adrodd ynghylch arwyddion o salwch, trallod neu newidiadau mewn ymddygiad
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gofalu am fabanod neu blant bach
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu r gwaith o ofalu am fabanod neu blant bach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ffactorau sy’n gallu dylanwadu ar ddatblygiad plant, gan gynnwys niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol
- sut gall newidiadau effeithio ar fabanod a phlant bach, a ffyrdd o’u cefnogi
- hawliau babanod a phlant bach i fynegi eu dewisiadau a chymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol mewn babanod a phlant bach
- pwysigrwydd amgylcheddau sy’n cynnig cyfoeth I’r synhwyrau a chyfleoedd i symud yn rhydd, archwilio, a hunanfynegi
- sut y gall ffactorau amgylcheddol effeithio ar allu babanod a phlant bach i symud yn rhydd a datblygu cydsymudiad corfforol
- pwysigrwydd chwarae, rhyngweithio ac ysgogi o ran hybu dysgu a datblygu
- sut mae babanod a phlant bach yn datblygu sgiliau symudedd a sut i gefnogi ymdrechion i symud ac archwilio yn ddiogel
- sut mae dehongli a chefnogi dulliau cyfathrebu babanod a phlant bach, gan gynnwys ffurfiau llafar, di-lafar a llawn mynegiant o gymryd rhan
- dylanwad diwylliant, cefndir, ysbrydolrwydd ac amgylchedd y cartref ar ddatblygiad a rhyngweithiadau babanod a phlant bach
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ofalu am fabanod a phlant bach
- sut mae arsylwi ac asesu datblygiad babanod a phlant bach
- strategaethau ar gyfer sicrhau bod babanod a phlant bach yn cael cyfleoedd ystyrlon i fynegi eu barn, cymryd rhan mewn penderfyniadau, a dylanwadu ar eu gofal
- eich rôl o ran diddyfnu a gosod gorchwylion hunan-fwydo babanod a phlant bach
- rôl hydradu a maeth cytbwys o ran twf, datblygiad ac iechyd babanod a phlant bach yn y tymor hir
- arwyddion diffyg maeth a diffyg hylif mewn babanod a phlant bach
- arferion hylendid diogel, gan gynnwys atal a rheoli heintiau, diogelwch bwyd, a chynnal amgylcheddau glân
- sut mae adnabod ac ymateb i salwch cyffredin yn ystod plentyndod
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant bach
- pwysigrwydd diogelu ac adnabod arwyddion o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod a chymryd camau addas
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant bach
- theorïau sy’n berthnasol i’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant bach
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant bach
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant bach
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant bach
- sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant bach, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu’r gwaith o ofalu am fabanod a phlant bach
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD349
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gofalu am fabanod a phlant bach, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu