Cynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc

URN: HSCCLD347
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion pan fyddwch yn ymgysylltu â theuluoedd mewn ffyrdd sy'n eu hannog i ymwneud â dysg a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n gofyn i chi weithio gyda theuluoedd mewn ffyrdd a fydd yn cefnogi eu dealltwriaeth o ddysg a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae’n cynnwys annog teuluoedd i gymryd rhan mewn chwarae a gweithgareddau a’r broses adolygu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfathrebu â theuluoedd gan ddefnyddio dull cynhwysol, agored a chroesawgar  
  2. gwrando’n ofalus ar deuluoedd a chydnabod eu teimladau a’u profiadau  
  3. gwrando ar blant neu bobl ifanc i sicrhau bod eu barn yn cael ei glywed, gan ystyried eu hoedran, eu hanghenion a'u galluoedd  
  4. nodi a pharchu gwahanol strwythurau teuluol a sut y gallant effeithio ar y disgwyliadau sydd ar blant neu bobl ifanc  
  5. annog teuluoedd i gydnabod rhinweddau, sgiliau a galluoedd unigryw plant neu bobl ifanc  
  6. cefnogi teuluoedd i gael gafael ar wybodaeth am ddysg a datblygiad plant neu bobl ifanc
  7. gweithio ag eraill i hybu amgylcheddau cefnogol lle gall teuluoedd siarad am ddysg a datblygiad plant neu bobl ifanc  
  8. dangos sut y gall gweithgareddau chwarae a rhyngweithiadau ymatebol helpu plant neu bobl ifanc i ddysgu, tyfu a datblygu sgiliau newydd  
  9. gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i’w cefnogi i gymryd rhan yng ngweithgareddau chwarae, dysgu a datblygu plant neu bobl ifanc
  10. nodi heriau a allai rwystro teuluoedd rhag bod yn rhan o ddysg a datblygiad plant neu bobl ifanc
  11. gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i’w cefnogi i adnabod y cyfraniadau sylweddol maent yn eu gwneud at ddysg a datblygiad plant neu bobl ifanc
  12. cynnwys plant neu bobl ifanc yn y gwaith o adolygu eu cynnydd eu hunain
  13. cynnwys teuluoedd yn yr adolygiad o gynnydd plant neu bobl ifanc
  14. rhoi adborth i blant neu bobl ifanc a theuluoedd am eu cynnydd  
  15. gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc, teuluoedd ac eraill i ddefnyddio gwybodaeth yr adolygiad i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer dysgu a datblygu
  16. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant neu bobl ifanc  
  17. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y newidiadau y gallai plant a phobl ifanc fynd drwyddynt a sut y gall y rhain effeithio ar eu llesiant a’u datblygiad  
  2. y ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd sy’n effeithio ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
  3. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar lesiant a datblygiad plant a phobl ifanc
  4. sut mae adnabod a gwerthfawrogi strwythurau teuluol amrywiol
  5. sut y gall disgwyliadau teuluoedd ar eu plant a phobl ifanc amrywio yn ôl diwylliant a chefndir  
  6. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a theuluoedd  
  7. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol teuluoedd sy’n ymwneud â dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  8. sut mae cynorthwyo teuluoedd i gael gafael ar wybodaeth am ddatblygiad plant
  9. y cysylltiad rhwng chwarae, dysgu a datblygu, a sut i annog teuluoedd i gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau chwarae  
  10. sut mae atgyfnerthu a dathlu ymdrechion a chysylltiad teuluoedd mewn ffordd gadarnhaol
  11. sut mae cefnogi teuluoedd i gydnabod a gwerthfawrogi rhinweddau, sgiliau a galluoedd unigryw plant a phobl ifanc
  12. effaith cynnwys teuluoedd yn y gwaith o adolygu cynnydd plant a phobl ifanc, a sut i hwyluso’r broses hon  
  13. gwerth amgylcheddau cefnogol lle gall teuluoedd deimlo’n gyfforddus wrth drafod dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  14. sut mae gwrando ar blant a phobl ifanc, ac ymateb yn effeithiol, gan ystyried eu hoedran, eu gofynion cyfathrebu, a’u hanghenion, a pham fod hyn yn bwysig  
  15. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth gynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  16. yr heriau posibl o ran cynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  17. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  18. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  19. theorïau sy’n berthnasol i gynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  20. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  21. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc  
  22. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc, a sut i fynd i’r afael â hyn
  23. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gynnwys teuluoedd o fewn dysg a datblygiad plant a phobl ifanc

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD347

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Teuluoedd, Dysg, Datblygiad, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu