Hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth â’u teuluoedd

URN: HSCCLD346
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu gofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, mewn partneriaeth â’u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys annog plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol i gymryd rhan mewn ystod lawn o chwarae a phrofiadau. Mae hefyd yn cynnwys nodi a darparu adnoddau a fydd yn cefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan a chael eu cynnwys. Mae'n gofyn i chi gefnogi teuluoedd mewn perthynas â gofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. arsylwi plant neu bobl ifanc a defnyddio arsylwadau i lywio eu gofal, dysg a datblygiad  
  2. cael caniatâd, cael gafael ar wybodaeth berthnasol am anghenion ychwanegol plant a phobl ifanc, a rhannu’r wybodaeth honno  
  3. annog annibyniaeth plant a phobl ifanc mewn perthynas â’u gofal, dysg a datblygiad  
  4. datblygu cynlluniau personol i gefnogi plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol  
  5. gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac eraill i nodi a gwneud cais am adnoddau i gwrdd â dewisiadau ac anghenion plant a phobl ifanc  
  6. nodi a defnyddio cymhorthion, cyfarpar, dyfeisiau neu adnoddau digidol gyda theuluoedd ac eraill i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  7. nodi a gweithio ag eraill i asesu ac ymateb i anghenion plant a phobl ifanc  
  8. defnyddio ffyrdd o weithio sy'n cwrdd â dewisiadau ac anghenion plant neu bobl ifanc a theuluoedd wrth gyfathrebu  
  9. gwrando ac ymateb mewn ffyrdd sy'n dangos eich bod yn gwerthfawrogi ac yn parchu plant neu bobl ifanc a theuluoedd  
  10. cefnogi plant neu bobl ifanc i fynegi eu meddyliau ac i reoleiddio’n emosiynol i sicrhau cyd-ddealltwriaeth  
  11. cynnig amrywiaeth o leoedd, profiadau a rhyngweithiadau i blant neu bobl ifanc a theuluoedd  
  12. trefnu amgylcheddau i gefnogi plant neu bobl ifanc a theuluoedd i gymryd rhan
  13. sicrhau bod teuluoedd ac eraill yn deall ac yn teimlo’n hyderus yn eu rolau a'u cyfrifoldebau  
  14. sefydlu a datblygu perthnasoedd ac amgylcheddau diogel i gefnogi teuluoedd i rannu gwybodaeth berthnasol a phryderon
  15. cefnogi teuluoedd i adnabod a gwerthfawrogi eu cyfraniadau at ofal, dysg a datblygiad plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  16. gweithio â theuluoedd ac eraill i roi adborth ynghylch gweithio mewn partneriaeth, gan nodi’r arferion gorau a mynd i’r afael ag unrhyw newidiadau sy’n angenrheidiol  
  17. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau ar gyfer gofal, dysg a datblygiad plant neu bobl ifanc
  18. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu gofal, dysg a datblygiad plant neu bobl ifanc ag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth â theuluoedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  2. y newidiadau y gall plant a phobl ifanc wynebu ac effaith newid ar eu dysg a’u datblygiad  
  3. y pwysau emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol y gallai teuluoedd plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol eu hwynebu, ac y gallai fod angen cymorth arnynt â hyn
  4. defnydd addas o iaith i gefnogi dealltwriaeth o anghenion plant a phobl ifanc
  5. y fframweithiau asesu ac ymyrryd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol  
  6. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  7. eich rôl o ran cefnogi’r gwaith o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a theuluoedd  
  8. hawliau plant a phobl ifanc i gael mynediad cyfartal at ofal a chymorth  
  9. y cymorth lleol a chenedlaethol sydd ar gael i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, eu teuluoedd ac eraill
  10. gwasanaethau eirioli sy'n cefnogi hawliau plant a phobl ifanc a theuluoedd  
  11. arbenigedd teuluoedd mewn perthynas ag anghenion plant a phobl ifanc
  12. dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar ofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  13. arferion integreiddio a chynhwysiant yn eich gweithle ac ardal leol
  14. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu gofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  15. patrymau datblygiadol nodweddiadol ac amrywiadau unigol mewn plant a phobl ifanc
  16. sut mae adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu
  17. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth weithio mewn partneriaeth â theuluoedd
  18. pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i bersonoli dulliau i gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc
  19. y mathau a’r defnydd o gymhorthion, cyfarpar, dyfeisiau neu adnoddau digidol i gefnogi gofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc
  20. strategaethau cyfathrebu amgen ac atgyfnerthol i gefnogi plant a phobl ifanc
  21. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu gofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth â theuluoedd
  22. theorïau sy’n berthnasol i hybu gofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth â’u teuluoedd
  23. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu gofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth â theuluoedd
  24. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu gofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth â theuluoedd  
  25. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu gofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth â theuluoedd, a sut i fynd i'r afael â hyn
  26. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu gofal, dysg a datblygiad plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth â theuluoedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD346

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gofal, Dysg, Datblygiad, Plant ag Anghenion Ychwanegol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu