Hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliadau addysg gynnar

URN: HSCCLD345
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliadau addysg gynnar. Mae'n gofyn i chi gynghori a chefnogi eraill mewn lleoliadau lle mae plant ag anghenion ychwanegol yn bresennol. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â phlant, eu teuluoedd ac eraill i gasglu gwybodaeth addas am blant unigol sydd ag anghenion ychwanegol. Mae gofyn i chi hefyd adolygu cynlluniau addysg a chasglu a diweddaru gwybodaeth am blant ag anghenion ychwanegol, mewn partneriaeth â'u teuluoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar eich rolau a’ch cyfrifoldebau o ran hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar  
  2. arsylwi plant unigol a defnyddio'r wybodaeth i gefnogi eu gofal, eu dysg a'u datblygiad mewn lleoliad addysg gynnar
  3. sefydlu perthynas gadarnhaol â phlant a theuluoedd  
  4. gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i gasglu gwybodaeth am anghenion a dewisiadau plant  
  5. gweithio mewn partneriaeth â phlant a theuluoedd i ddatblygu cynlluniau personol i gefnogi gofal, dysg a datblygiad mewn lleoliad addysg gynnar  
  6. gweithio ag eraill i asesu ac ymateb i anghenion unigol plant  
  7. modelu technegau a dulliau sy'n canolbwyntio ar y plentyn wrth weithio â phlant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar  
  8. cefnogi eraill i weithio mewn partneriaeth â phlant a theuluoedd  
  9. sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i blant, teuluoedd ac eraill
  10. nodi a chael gafael ar y cymorth sydd ei angen i gwrdd ag anghenion plant nawr ac yn y dyfodol  
  11. adolygu cynlluniau personol mewn partneriaeth â phlant, teuluoedd ac eraill i gefnogi gofal, dysg a datblygiad mewn lleoliad addysg gynnar  
  12. sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â hyn yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i gynlluniau personol i gefnogi gofal, dysg a datblygiad mewn lleoliad addysg gynnar  
  13. cefnogi eraill i weithredu cynlluniau personol mewn lleoliad addysg gynnar  
  14. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar
  15. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ofal, dysg a datblygiad plant
  2. y newidiadau y gall plant eu hwynebu ac effaith newid ar eu dysg a’u datblygiad  
  3. y pwysau emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol y gallai teuluoedd plant ag anghenion ychwanegol eu hwynebu, ac y gallai fod angen cymorth arnynt â hyn
  4. defnydd addas o iaith i gefnogi dealltwriaeth o anghenion plant
  5. y fframweithiau asesu ac ymyrryd ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol  
  6. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi plant ag anghenion ychwanegol
  7. eich rôl o ran cefnogi’r gwaith o ymgysylltu â phlant a theuluoedd  
  8. hawliau plant i gael mynediad cyfartal at ofal a chymorth  
  9. y cymorth lleol a chenedlaethol sydd ar gael i blant ag anghenion ychwanegol, eu teuluoedd ac eraill
  10. gwasanaethau eirioli sy'n cefnogi hawliau plant a theuluoedd  
  11. arbenigedd teuluoedd mewn perthynas ag anghenion plant
  12. dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar ofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol
  13. arferion integreiddio a chynhwysiant yn y gweithle a'r ardal leol
  14. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn perthynas â gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar
  15. patrymau datblygiadol nodweddiadol ac amrywiadau unigol mewn plant
  16. sut mae adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu
  17. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol mewn lleoliadau addysg gynnar
  18. pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i bersonoli dulliau i gwrdd ag anghenion plant
  19. y mathau a’r defnydd o gymhorthion, cyfarpar, dyfeisiau neu adnoddau digidol i gefnogi gofal, dysg a datblygiad plant mewn lleoliad addysg gynnar  
  20. strategaethau cyfathrebu amgen ac atgyfnerthol i gefnogi plant  
  21. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar  
  22. theorïau sy’n berthnasol i hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar
  23. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar  
  24. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar  
  25. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar, a sut i fynd i'r afael â hyn  
  26. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu gofal, dysg a datblygiad plant ag anghenion ychwanegol mewn lleoliad addysg gynnar

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD345

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gofal, Dysg, Datblygiad, Plant ag Anghenion Ychwanegol, Addysg Gynnar, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu