Hybu datblygiad plant a phobl ifanc

URN: HSCCLD343
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu datblygiad holistaidd plant a phobl ifanc.  Mae'n cynnwys arsylwi ac asesu anghenion datblygu plant a phobl ifanc ym mhob agwedd ar eu datblygiad. Mae’r rhain yn cynnwys agweddau corfforol, emosiynol, cymdeithasol, ieithyddol a chyfathrebu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r rhesymau dros arsylwi ac asesu datblygiad plant neu bobl ifanc
  2. cael caniatâd gan blant neu bobl ifanc ac eraill
  3. trafod arsylwadau gyda phlant neu bobl ifanc ac eraill ac ymateb i'w barn yn unol â'u dewisiadau a'u hanghenion
  4. dewis a defnyddio technegau addas i arsylwi ar blant neu bobl ifanc
  5. arsylwi heb dynnu sylw nac achosi straen  
  6. cynnal asesiadau ffurfiannol yn seiliedig ar arsylwadau a gwybodaeth gan blant neu bobl ifanc ac eraill  
  7. cynnal asesiadau crynodol yn seiliedig ar arsylwadau a gwybodaeth gan blant neu bobl ifanc ac eraill
  8. rhannu canfyddiadau ac adolygu asesiadau mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill  
  9. gweithio mewn partneriaeth â phlant neu bobl ifanc ac eraill i gynllunio camau gweithredu a chreu cynlluniau dysgu a datblygu personol
  10. gweithredu’r cynlluniau dysgu a datblygu personol, gan ystyried dewisiadau, anghenion a galluoedd plant neu bobl ifanc
  11. darparu mannau, profiadau a rhyngweithiadau sy'n cwrdd â dewisiadau, anghenion a galluoedd plant neu bobl ifanc gan gynllunio’n ymatebol  
  12. adborth ar effeithiolrwydd cynlluniau dysgu a datblygu personol a chynllunio ymatebol gyda phlant neu bobl ifanc ac eraill  
  13. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer datblygiad plant a phobl ifanc
  14. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu datblygiad plant a phobl ifanc

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. datblygiad cyn geni a ffactorau sy'n effeithio ar dwf y ffetws a datblygiad yr ymennydd
  2. y patrwm disgwyliedig o ran datblygiad o adeg geni hyd at 21 oed  
  3. ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd sy'n effeithio ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
  4. dylanwad diwylliant a chefndir ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
  5. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
  6. sut mae sicrhau bod gwybodaeth am ddatblygiad ar gael i blant a phobl ifanc ac eraill
  7. sut mae hybu datblygiad plant a phobl ifanc mewn ffordd sy'n cefnogi rheoleiddio emosiynol
  8. sut mae cefnogi plant a phobl ifanc â’r newidiadau y gallant eu profi
  9. sut mae darparu amgylchedd cynnes, diogel ac anogol i blant a phobl ifanc mewn partneriaeth ag eraill
  10. ffyrdd o addasu eich ymarfer a'ch amgylchedd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan gyfartal
  11. sut mae datblygu perthynas gyson, ofalgar a meithringar gyda phlant a phobl ifanc
  12. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu datblygiad plant a phobl ifanc
  13. y cyfraniad mae chwarae'n ei wneud at ddatblygiad holistaidd
  14. sut mae hybu annibyniaeth plant a phobl ifanc mewn perthynas â gwneud dewisiadau, wynebu heriau, a chymryd risgiau yn unol â'u dewisiadau, eu hanghenion a'u galluoedd
  15. strategaethau i annog plant a phobl ifanc i fod yn ymwybodol o sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar eraill  
  16. sut mae rhoi anogaeth ystyrlon yn unol â dewisiadau ac anghenion plant a phobl ifanc
  17. gweithdrefnau’r gweithle ar gyfer arsylwi ac asesu a sut mae'r rhain yn cysylltu â fframweithiau cwricwlwm neu ddatblygu
  18. pwysigrwydd annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y cylchoedd cynllunio
  19. amrywiaeth o dechnegau i arsylwi ar blant a phobl ifanc
  20. defnydd arsylwadau a gwybodaeth arall i wneud asesiadau ffurfiannol a chrynodol
  21. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol mewn perthynas â datblygiad plant a phobl ifanc
  22. sut mae cynllunio mannau, profiadau a rhyngweithiadau ar gyfer datblygu a dysgu  
  23. ffyrdd o weithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc ac eraill i ysgrifennu cynlluniau dysgu a datblygu  
  24. sut mae annog a chefnogi creadigrwydd plant a phobl ifanc
  25. sut mae arferion bob dydd yn cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
  26. sut mae nodi a chefnogi sgiliau llythrennedd a rhifedd plant a phobl ifanc
  27. y dulliau llafar a di-lafar a ddefnyddir i gefnogi sgiliau cyfathrebu plant a phobl ifanc
  28. strategaethau cyfathrebu mewn sefyllfaoedd dwyieithog neu amlieithog neu lle nad Cymraeg neu Saesneg yw iaith y cartref  
  29. anghenion maeth, bwyta'n iach a chorfforol plant a phobl ifanc
  30. mathau o brofiadau a chyfarpar i annog datblygiad sgiliau echddygol bras a manwl  
  31. sut mae darparu amgylcheddau diogel sy'n annog sgiliau corfforol a hyder wrth symud
  32. pwysigrwydd annog plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus a gofyn cwestiynau am faterion sy’n effeithio arnynt  
  33. sut mae gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau dysgu a datblygu a chynllunio ymatebol
  34. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu datblygiad plant a phobl ifanc
  35. theorïau sy’n berthnasol i ddatblygiad plant a phobl ifanc
  36. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu datblygiad plant a phobl ifanc
  37. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu datblygiad plant a phobl ifanc
  38. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu datblygiad plant a phobl ifanc
  39. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu datblygiad plant a phobl ifanc, a sut i fynd i'r afael â hyn
  40. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu datblygiad plant a phobl ifanc

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD343

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Datblygiad, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu