Hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
URN: HSCCLD342
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio, paratoi a gwerthuso cyflwyniadau i gwrdd â chanlyniadau dysgu penodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth gynllunio i hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i nodi pwrpas cyflwyniadau a chael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gytuno ar y canlyniadau a’r dulliau y byddwch yn eu defnyddio i roi cyflwyniadau
- amlinellu’r nodau a’r canlyniadau disgwyliedig wrth gyflwyno
- darparu gweithgareddau sy'n annog rhyngweithio a chyfranogi wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- rhoi mynediad at ddeunyddiau dysgu a datblygu mewn fformatau hygyrch
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gael gafael ar adnoddau, offer ac amgylcheddau sy’n addas ar gyfer cyflwyniadau a gweithgareddau dysgu a datblygu, ac i’w darparu
- adolygu neu gwblhau asesiadau risg i hwyluso cyflwyniadau a gweithgareddau dysgu a datblygu
- casglu adborth am gyflwyniadau a gweithgareddau dysgu a datblygu
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i werthuso'r adborth am gyflwyniadau a gweithgareddau dysgu a datblygu, a nodi arferion da a mynd i’r afael â’r newidiadau sydd eu hangen
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- sut mae cael gafael ar wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth a’u hadolygu wrth hwyluso dysgu a datblygiad gan ddefnyddio cyflwyniadau
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ryngweithio a chyfranogi mewn gweithgareddau dysgu a datblygu
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- egwyddorion asesiadau risg i hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithgareddau dysgu a datblygu
- sut mae defnyddio gwahanol fathau o ddysgu, arddulliau unigol ac amrywiaeth o dechnegau cyflwyno i strwythuro cyflwyniadau
- sut mae cynllunio, hybu a pharatoi gweithgareddau dysgu o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt
- gwahanol dechnegau i reoli deinameg grŵp yn ystod cyflwyniadau a gweithgareddau dysgu a datblygu
- sut mae addasu cyflwyniadau a gweithgareddau i gwrdd â dewisiadau ac anghenion sy'n newid, gan barhau i weithio tuag at ganlyniadau a gynlluniwyd
- sut mae defnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol i ymgysylltu â dysgwyr a’u hysgogi, a pham fod hyn yn bwysig
- y mathau o heriau i ddysgu a sut i fynd i’r afael â’r rhain
- sut mae gwerthuso p’un a lwyddwyd i gwrdd â chanlyniadau ai peidio wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- theorïau sy’n berthnasol i hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hwyluso dysgu a datblygu gan ddefnyddio cyflwyniadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD342
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Hwyluso dysgu a datblygu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu