Darparu asesiad ar berfformiad eraill

URN: HSCCLD341
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion pan fyddwch yn darparu asesiad ar berfformiad eraill. Mae hyn yn cynnwys paratoi i asesu perfformiad, cynnal yr asesiad yn ddiogel ac yn foesegol, a rhoi adborth ar ganlyniad penderfyniadau eich asesiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a rhannu'r safonau a fydd yn cael eu defnyddio i asesu perfformiad eraill  
  2. gweithio mewn partneriaeth ag eraill i drafod galluoedd, profiadau, disgwyliadau, ac unrhyw bryderon am asesiadau
  3. cynllunio gweithgareddau gwaith, dulliau asesu a mathau o dystiolaeth i gwrdd â’r safonau asesu  
  4. cytuno ar bryd, ble a sut y byddir yn arsylwi ar ymarfer a phwy fydd yn cymryd rhan  
  5. nodi a chynllunio sut i fynd i’r afael â chaniatâd ac unrhyw faterion moesegol  
  6. dilyn cynlluniau y cytunwyd arnynt i arsylwi perfformiad ac asesu tystiolaeth arall  
  7. cadarnhau nad yw’r broses asesu yn cael effaith niweidiol ar y gofal neu’r cymorth a roddir i unigolion  
  8. gwerthuso a yw’r ymarfer a thystiolaeth arall yn cwrdd â’r safonau asesu  
  9. gwneud yn siŵr bod y dystiolaeth yn ddilys  
  10. gweithio mewn partneriaeth i drafod penderfyniadau’r asesiad  
  11. cadarnhau dealltwriaeth o benderfyniadau’r asesiad ac annog cwestiynau  
  12. rhoi adborth ar gryfderau a sut y gellir gwella ymarfer  
  13. gweithio mewn partneriaeth i adolygu cynlluniau asesu i nodi bylchau mewn ymarfer neu wybodaeth  
  14. cytuno ar unrhyw hyfforddiant, datblygiad neu dystiolaeth sydd eu hangen cyn cwblhau asesiadau  
  15. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer darparu asesiad ar berfformiad eraill  
  16. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth ddarparu asesiad ar berfformiad eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cynllunio gweithgareddau gwaith, dulliau asesu a mathau o dystiolaeth i gwrdd â safonau a dewisiadau ac anghenion y rhai sy'n cael eu hasesu
  2. ystod a phwrpas dulliau asesu dilys a mathau o dystiolaeth ar gyfer asesu perfformiad
  3. sut mae nodi a chytuno ar feini prawf perfformiad, pa agweddau ar berfformiad maent yn eu dangos, a phwy fydd yn cymryd rhan  
  4. pwy arall ddylai ymwneud â’r gwaith o asesu cymhwysedd eraill
  5. sut mae cael caniatâd ac ystyried yr amrywiaeth o ystyriaethau moesegol wrth asesu perfformiad eraill
  6. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar yr asesiad o berfformiad eraill
  7. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar yr asesiad o berfformiad eraill
  8. pwysigrwydd cytuno ar ble a phryd y rhoddir adborth ac y cynhelir asesiadau pellach
  9. sut mae arsylwi ar weithgareddau gwaith rheolaidd heb gael effaith niweidiol ar y gofal neu’r cymorth a roddir i unigolion neu’r gweithle  
  10. yr effaith mae arsylwi ar ymarfer yn ei chael ar unigolion ac eraill
  11. sut mae gwneud cymariaethau cywir a theg rhwng perfformiad a’r safonau y cytunwyd arnynt  
  12. sut mae darparu cyfleoedd asesu sy'n deg ac yn gyson, ac sy’n osgoi gwahaniaethu  
  13. sut mae paratoi a gofyn cwestiynau i gadarnhau gwybodaeth a dealltwriaeth  
  14. sut mae gwneud yn siŵr bod y dystiolaeth a ddarperir yn ddilys
  15. sut mae rhoi adborth adeiladol ar benderfyniadau’r asesiad  
  16. sut mae annog cwestiynau a ble i ofyn am gyngor
  17. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth asesu perfformiad  
  18. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth asesu perfformiad eraill
  19. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth asesu perfformiad eraill
  20. dulliau adolygu cynlluniau asesu, nodi meysydd i'w gwella, a chynllunio asesiadau ychwanegol  
  21. sut mae nodi'r camau gofynnol i gwrdd â’r lefelau perfformiad y cytunwyd arnynt  
  22. i bwy y dylid trosglwyddo’r wybodaeth asesu, a phryd  
  23. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ddarparu asesiad ar berfformiad eraill
  24. sut y gellir defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi’r gwaith o asesu eraill
  25. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer darparu asesiad ar berfformiad eraill
  26. theorïau sy’n berthnasol i ddarparu asesiad ar berfformiad eraill
  27. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer darparu asesiad ar berfformiad eraill
  28. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth ddarparu asesiad ar berfformiad eraill
  29. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth ddarparu asesiad ar berfformiad eraill, a sut i fynd i'r afael â hyn  
  30. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth ddarparu asesiad ar berfformiad eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD341

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Asesiad ar Berfformiad, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu