Goruchwylio a chefnogi aelodau’r tîm
URN: HSCCLD340
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion goruchwylio wrth gefnogi aelodau’r tîm. Mae'n ymdrin â’r rolau llesiant, diogelu, rheoli, cyfryngu a datblygu sy’n gysylltiedig â goruchwylio. Mae'r camau allweddol yn cynnwys paratoi, cyflawni ac adolygu’r dulliau goruchwylio, a chynnal cofnodion ac adroddiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rhoi systemau, gweithdrefnau ac arferion ar waith wrth oruchwylio aelodau'r tîm
- paratoi ar gyfer goruchwylio mewn ffordd a fydd yn sicrhau ei fod mor effeithiol â phosibl
- trafod agendâu a rennir a chytundebau ysgrifenedig ag aelodau’r tîm
- nodi a chytuno ar rolau, cyfrifoldebau, atebolrwydd a therfynau’r broses a’r berthynas oruchwylio
- gweithio mewn partneriaeth ag aelodau'r tîm i greu amgylcheddau cadarnhaol a diogel at ddibenion goruchwylio sy'n hybu trafodaeth agored, myfyrdod ac adborth adeiladol
- cefnogi aelodau'r tîm i fyfyrio ar eu cyfraniad at ganlyniadau cadarnhaol i unigolion
- cefnogi aelodau'r tîm i fyfyrio a bod yn berchen ar eu cyfrifoldebau i ddiogelu ac amddiffyn unigolion a hybu llesiant
- rhoi adborth adeiladol i aelodau’r tîm ynghylch eu gwybodaeth, eu gwerthoedd a’u hymarfer
- galluogi aelodau'r tîm i adolygu a rheoli eu llwyth gwaith a’u blaenoriaethau
- ysgogi aelodau'r tîm i gydweithio wrth wneud penderfyniadau a rheoli newid
- galluogi aelodau'r tîm i asesu a rheoli risg
- cydnabod effaith emosiynol ymarfer ar aelodau'r tîm ac archwilio dulliau o hybu gwytnwch, strategaethau ymdopi a hunanofal
- rhoi egwyddorion a strategaethau ar waith i gefnogi aelodau'r tîm i reoli sefyllfaoedd heriol
- hybu aelodau’r tîm i gymryd cyfrifoldeb dros safon eu gwaith a chynnal a gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau
- gweithio mewn partneriaeth ag aelodau’r tîm i nodi eu hanghenion dysgu a datblygu, a’u canlyniadau
- cwblhau cynlluniau datblygiad personol a phroffesiynol gydag aelodau'r tîm i gwrdd â’u hanghenion dysgu a datblygu a'u canlyniadau
- gweithio mewn partneriaeth ag aelodau’r tîm i integreiddio dysgu newydd o fewn eu hymarfer
- gweithio mewn partneriaeth ag aelodau’r tîm i fonitro, myfyrio a gwerthuso cynnydd tuag at eu hanghenion dysgu a datblygu a’u canlyniadau
- cael gafael ar gymorth ychwanegol ar gyfer aelodau’r tîm pan fyddant yn wynebu heriau o ran safon eu gwaith, a chynnal a gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer goruchwylio aelodau’r tîm
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau wrth oruchwylio a chefnogi aelodau’r tîm
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwrpas a manteision goruchwylio
- y gwahanol fathau a modelau goruchwylio
- sut mae alinio goruchwylio â gweledigaeth, canlyniadau a gwerthoedd y gweithle
- rôl goruchwyliaeth o ran gwella canlyniadau ac ansawdd gwasanaethau
- rolau, cyfrifoldebau, atebolrwydd a therfynau’r broses a’r berthynas oruchwyliol
- sut mae creu perthnasoedd gwaith, amgylchedd a therfynau sy'n hybu ymgysylltu a diogelwch seicolegol
- sut mae hybu trafodaeth agored, myfyrio ac adborth adeiladol yn y berthynas oruchwyliol
- pam mae cyfathrebu proffesiynol yn bwysig yn y berthynas oruchwyliol
- rôl goruchwyliaeth o ran hybu gweithio mewn partneriaeth
- sut mae arwain aelodau'r tîm i ddatblygu ymarfer a bod yn berchen ar eu cyfrifoldebau i ddiogelu ac amddiffyn unigolion a hybu llesiant
- sut mae arwain eraill i ddatblygu ymarfer sy'n hybu cymryd risgiau cadarnhaol
- sut mae cefnogi aelodau’r tîm wrth gynllunio llwyth gwaith a blaenoriaethau
- sut mae rhoi adborth adeiladol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i aelodau’r tîm ynghylch eu gwybodaeth, eu gwerthoedd a’u hymarfer
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth oruchwylio aelodau’r tîm
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth oruchwylio aelodau’r tîm
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar anghenion goruchwylio a chymorth, a chanlyniadau aelodau’r tîm
- dylanwad diwylliant a chefndir aelodau’r tîm ar eu hanghenion goruchwylio a chymorth, a’u canlyniadau
- sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol wrth weithio mewn sefyllfaoedd heriol neu gymhleth gyda thimau
- egwyddorion a strategaethau rheoli gwrthdaro
- sut mae cyfryngu tensiynau rhwng aelodau’r tîm a gwerthoedd y sefydliad
- technegau ar gyfer datrys problemau a meddwl yn flaengar
- technegau hyfforddi a mentora a sut y gellir eu defnyddio wrth oruchwylio
- sut mae eich grym a’ch dylanwad fel goruchwyliwr yn gallu effeithio ar y berthynas oruchwyliol
- pwysigrwydd cefnogi eich llesiant eich hun a llesiant aelodau’r tîm
- dulliau cefnogi aelodau’r tîm i nodi eu hanghenion dysgu a datblygu, a’u canlyniadau
- yr ystod o adnoddau dysgu a datblygu sy’n cwrdd â’r dulliau dysgu a ffafrir gan aelodau’r tîm
- sut mae trafod cynlluniau dysgu a datblygu, a chanlyniadau
- sut mae cydweithio ag aelodau’r tîm i integreiddio dysgu newydd o fewn ymarfer
- pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ag aelodau’r tîm i fonitro, myfyrio a gwerthuso cynnydd tuag at anghenion dysgu a datblygu, a chanlyniadau
- y cymorth ychwanegol ar gyfer llesiant, safon gwaith, a gwybodaeth a sgiliau aelodau’r tîm
- rôl goruchwyliaeth o ran rhoi polisïau cwyno a disgyblu ar waith, a rheoli perfformiad
- pwrpas a gofynion cofnodi trefniadau goruchwylio
- sut mae gwerthuso a datblygu eich safonau proffesiynol eich hun o ran ymarfer goruchwyliol
- damcaniaethau sy'n berthnasol i oruchwylio a chefnogi aelodau’r tîm
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer goruchwylio a chefnogi aelodau’r tîm
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth oruchwylio a chefnogi aelodau’r tîm
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth oruchwylio aelodau’r tîm, a sut i fynd i'r afael â hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD340
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Goruchwylio, Cefnogi, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu