Hybu'r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill

URN: HSCCLD34
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybodaeth am ddiogelu ar waith, rhoi camau i atal ar waith, a hybu ymwybyddiaeth unigolion o ddiogelwch personol. Mae'r safon hefyd yn ymdrin â monitro arwyddion o niwed, camdriniaeth, esgeulustod neu ecsbloetiaeth a gweithredu ar y rhain, a chynorthwyo eraill i wneud hynny.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i hybu’r gwaith o ddiogelu unigolion 
  2. cael gafael ar wybodaeth am ofynion diogelu’r gweithle, a chefnogi eraill i wneud hynny 
  3. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth ac asesiadau risg am y gofynion diogelu ar gyfer unigolion, a chefnogi eraill i wneud hynny 
  4. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi eu gofynion diogelu 
  5. cefnogi a grymuso unigolion i ddatblygu annibyniaeth, hyder a hunan-barch er mwyn sicrhau eu diogelwch personol 
  6. grymuso ac annog unigolion i fynegi eu hanghenion, eu meddyliau a’u hemosiynau ynghylch diogelwch personol a diogelu
  7. gwrando ac ymateb mewn ffordd sy'n dangos eich bod yn gwerthfawrogi ac yn parchu barn, dewisiadau a phenderfyniadau unigolion i gymryd risgiau cadarnhaol
  8. annog a chefnogi unigolion ac eraill i nodi a chael gafael ar yr adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen i sicrhau diogelwch personol 
  9. nodi a monitro ymddygiad, sefyllfaoedd ac arwyddion a allai ddangos bod unigolion neu eraill mewn perygl o gael eu niweidio neu'u cam-drin, neu eu bod wedi bod mewn perygl yn y gorffennol 
  10. cefnogi unigolion ac eraill i nodi a rhoi gwybod am weithredoedd, ymddygiad a sefyllfaoedd a allai fod yn niweidiol neu’n gamdriniol 
  11. dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu pan fydd niwed neu gamdriniaeth yn cael ei amau neu ei ddatgelu, a chefnogi eraill i wneud hynny
  12. cymryd camau i leihau neu ddileu risgiau i chi eich hun, yr unigolyn ac eraill 
  13. gweithio mewn partneriaeth ag eraill i rannu gwybodaeth am ddiogelu ac asesiadau risg i lywio eu hymarfer nhw a'ch ymarfer chi
  14. sicrhau nad yw eich gweithredoedd neu’ch anweithredoedd yn effeithio ar sefyllfa neu dystiolaeth sy'n ymwneud â diogelu
  15. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer diogelu unigolion ac eraill
  16. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o niwed, camdriniaeth, esgeulustod ac ecsbloetiaeth 
  2. beth yw meithrin perthynas amhriodol, yr arwyddion, sut y gall godi a'r camau i'w cymryd 
  3. beth yw bwlio, yr arwyddion, sut y gall godi a’r camau i'w cymryd
  4. dylanwad pŵer a sut y gall unigolion ac eraill ei gamddefnyddio i guddio pryderon diogelu 
  5. y ffactorau a allai gynyddu'r perygl i unigolion neu eraill gael eu niweidio neu eu cam-drin
  6. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddiogelwch personol a diogelu 
  7. yr arwyddion a allai ddangos bod unigolion neu eraill mewn perygl o gael eu niweidio neu eu cam-drin, neu eu bod wedi bod mewn perygl yn y gorffennol 
  8. y mathau o gamau, hepgoriadau, ymddygiad a sefyllfaoedd a allai fod yn niweidiol neu’n gamdriniol i unigolion neu eraill
  9. cyfnodau pontio ym mywydau unigolion a allai olygu bod mwy o berygl iddynt gael eu niweidio a’u cam-drin 
  10. dylanwad diwylliant, cefndir a ysbrydolrwydd ar ddiogelwch personol a diogelu 
  11. y ddyletswydd foesol a moesegol i ddiogelu unigolion ac eraill, ac i amddiffyn y cyhoedd yn ehangach
  12. eich rôl i atal o ran diogelu unigolion ac eraill, a goblygiadau methu â gweithredu
  13. ystyr y term chwythu'r chwiban
  14. rôl asesiadau risg a rheoli risg wrth ddiogelu unigolion ac eraill
  15. 15.camau cywir i’w cymryd os bydd niwed neu gamdriniaeth yn cael ei amau neu ei ddatgelu 
  16. sut mae cefnogi unigolion ac eraill i nodi a rhoi gwybod am niwed neu gamdriniaeth, a pham y gallai fod yn anodd iddynt wneud hynny
  17. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ymdrin â phryderon diogelu
  18. rôl hyder a hunan-barch o ran sicrhau diogelwch personol 
  19. y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol a sut mae cefnogi unigolion i fod yn ddiogel ar-lein
  20. sut mae diogelu eich hun ac eraill yn y gweithle neu wrth weithio ar eich pen eich hun 
  21. sut mae dysgu o adolygiadau i fethiannau difrifol er mwyn amddiffyn pobl rhag niwed, camdriniaeth, esgeulustod neu ecsbloetiaeth
  22. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  23. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  24. pwysigrwydd cadw tystiolaeth sy’n gysylltiedig â niwed a chamdriniaeth posibl 
  25. pryd y mae'n rhaid i chi rannu gwybodaeth a fyddai fel arall yn gyfrinachol, a sut mae helpu unigolion ac eraill i ddeall hyn 
  26. pam ei bod yn bwysig cofnodi a rhoi gwybod am ffeithiau wrth ddiogelu unigolion ac eraill
  27. beth i'w wneud os ydych chi wedi rhoi gwybod am bryderon ond nad oes camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â nhw 
  28. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  29. damcaniaethau sy’n berthnasol i ddiogelu unigolion ac eraill
  30. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer diogelu unigolion ac eraill
  31. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
  32. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion a pham fod hyn yn bwysig 
  33. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill, a sut i fynd i'r afael â hyn 
  34. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth ddiogelu unigolion ac eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD34

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Diogelu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu