Hybu’r gwaith o recriwtio aelodau’r tîm

URN: HSCCLD339
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu’r gwaith o recriwtio aelodau’r tîm. Mae'n golygu cymryd agwedd deg a gwrthrychol at recriwtio a dethol i sicrhau mai unigolion sydd â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ofynnol ac sy'n debygol o berfformio'n effeithiol sy’n cael eu penodi. Mae'r safon hefyd yn cynnwys cymryd camau i gefnogi ymdrechion i gadw aelodau newydd o'r tîm.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu'r llwyth gwaith ar gyfer eich maes cyfrifoldeb  
  2. adolygu bylchau a diffygion o ran staffio, profiad a chymysgedd sgiliau er mwyn canfod gofynion recriwtio  
  3. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill yn y broses recriwtio a dethol  
  4. gweithio mewn partneriaeth ag eraill i adolygu disgrifiadau swydd, manylebau person a hysbysebion swyddi  
  5. cymryd rhan yn y broses recriwtio a dethol, a’i monitro  
  6. sicrhau bod y gweithdrefnau dethol a'r gwiriadau cyn cyflogi gofynnol wedi cael eu cyflawni
  7. cael geirdaon ar gyfer aelodau o’r tîm sydd newydd gael eu recriwtio
  8. rhoi gwybodaeth i eraill am y penderfyniadau dethol  
  9. cefnogi â phrosesau cynefino aelodau newydd o'r tîm a darparu adnoddau a chefnogaeth barhaus i sicrhau eu bod yn setlo yn y gweithle
  10. rhoi cyfleoedd i aelodau newydd o'r tîm drafod ac ystyried cynnydd yn ystod eu cyfnod prawf  
  11. gweithio mewn partneriaeth ag eraill i roi adborth ynghylch y broses recriwtio a dethol, a nodi arferion da a mynd i’r afael â newidiadau ar gyfer recriwtio yn y dyfodol
  12. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer recriwtio aelodau’r tîm
  13. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu’r gwaith o recriwtio aelodau’r tîm

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diwylliant ac arferion gweithio'r sector
  2. y cynlluniau a'r trefniadau presennol yn y sector i fynd i'r afael â materion recriwtio a chadw staff  
  3. sut mae mesur trosiant staff yn y gweithle a'i gymharu â lleoliadau tebyg a throsiant yn y sector ehangach
  4. effaith trosiant uchel ac isel ymhlith aelodau'r tîm, a sut i fynd i'r afael â hyn  
  5. sut mae adolygu’r llwyth gwaith a newidiadau yn y gweithle i nodi gofynion recriwtio  
  6. yr hyn y dylai disgrifiadau swydd a manylebau person eu cynnwys a pham ei fod yn bwysig gweithio mewn partneriaeth ag eraill i'w datblygu neu eu hadolygu  
  7. sut mae datblygu trefniadau recriwtio cynhwysol o wahanol ddiwylliannau, cefndiroedd a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
  8. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y broses recriwtio, a phwysigrwydd gwneud addasiadau rhesymol  
  9. pwysigrwydd nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau ar gyfer camau’r broses recriwtio a dethol
  10. gwahanol ddulliau hysbysebu cyfleoedd recriwtio sy'n ystyried amodau'r farchnad gyflogaeth leol
  11. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol wrth recriwtio aelodau’r tîm
  12. pwysigrwydd darparu gwybodaeth deg, glir a chywir i ddarpar ymgeiswyr am swyddi gwag  
  13. sut mae barnu a yw ymgeisydd yn cwrdd â gofynion y swydd wag  
  14. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth recriwtio, dethol a chadw aelodau’r tîm
  15. y gwiriadau cyn cyflogi sy’n ofynnol ar gyfer arferion recriwtio diogel a theg  
  16. rôl trefniadau cynefino o ran cadw aelodau’r tîm  
  17. sut mae cefnogi aelodau newydd o’r tîm i setlo yn y gweithle
  18. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi â’r gwaith o recriwtio a chadw aelodau’r tîm
  19. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod y broses recriwtio
  20. gofynion y cyfnod prawf ar gyfer eich gweithle, a phwysigrwydd hyn  
  21. pam ei fod yn bwysig cynnal cyfweliadau ymadael ag aelodau’r tîm  
  22. sut mae rhoi adborth ar y prosesau recriwtio a dethol, nodi arferion da a mynd i’r afael â newidiadau ar gyfer recriwtio yn y dyfodol
  23. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer recriwtio aelodau’r tîm
  24. theorïau sy’n berthnasol i hybu’r gwaith o recriwtio aelodau’r tîm
  25. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer recriwtio aelodau’r tîm
  26. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth recriwtio aelodau’r tîm
  27. sut mae gofyn am gymorth wrth recriwtio a chadw aelodau’r tîm
  28. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth recriwtio aelodau’r tîm, a sut i fynd i'r afael â hyn
  29. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth recriwtio a chadw aelodau’r tîm

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD339

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Recriwtio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu