Prosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
URN: HSCCLD338
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth brosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys derbyn, dadansoddi, cyrchu a defnyddio gwybodaeth i lywio penderfyniadau ac yna casglu, dogfennu a rhannu gwybodaeth gwneud penderfyniadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- derbyn gwybodaeth gan unigolion ac eraill yn y fformatau y cytunwyd arnynt
- cydnabod derbyn gwybodaeth ac ymateb i hysbyswyr
- adolygu a blaenoriaethu gwybodaeth yn ôl brys a gofynion y gweithle
- nodi a chasglu rhagor o ffynonellau gwybodaeth sydd ei hangen
- dadansoddi’r wybodaeth a dderbyniwyd ac a gasglwyd i sicrhau ei bod yn gywir, yn berthnasol ac yn ddigonol, a chefnogi eraill i wneud hynny
- edrych a oes unrhyw gyfyngiadau ar yr wybodaeth
- nodi a chyflawni’r camau gofynnol ar sail gwybodaeth, a chefnogi unigolion ac eraill i wneud hynny
- egluro'r rhesymau dros wneud penderfyniadau penodol
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ddatrys heriau â gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- casglu a dogfennu gwybodaeth gwneud penderfyniadau mewn fformatau hygyrch i nodi'r dystiolaeth, y broses o wneud penderfyniadau, a'r camau a gymerwyd
- rhannu gwybodaeth gwneud penderfyniadau berthnasol ag unigolion ac eraill
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i werthuso sut y cafodd gwybodaeth ei derbyn, ei chasglu, ei dadansoddi a’i rhannu
- nodi a mynd i'r afael ag unrhyw newidiadau sydd eu hangen i brosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer prosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i brosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- dulliau o gael gafael ar wybodaeth gwneud penderfyniadau, a’i dadansoddi a'i gweithredu
- sut mae asesu cywirdeb, perthnasedd, a digonolrwydd yr wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi gwneud penderfyniadau
- ffyrdd o nodi ac ymdrin â gwybodaeth a allai fod yn anghyson, yn amwys neu'n annigonol
- sut mae cyfathrebu’n effeithiol er mwyn darparu a derbyn gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ddarparu a derbyn gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- sut mae blaenoriaethu gwybodaeth gwneud penderfyniadau yn ôl brys a gofynion y gweithle, a pham fod hyn yn bwysig
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth ddarparu a derbyn gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- y mathau o wybodaeth ansoddol a meintiol y gallai fod eu hangen i ddadansoddi gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i brosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddewisiadau unigolion ar gyfer darparu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- ffyrdd o gofnodi ac adrodd am wybodaeth mewn fformatau hygyrch i nodi'r dystiolaeth, y broses o wneud penderfyniadau, a'r camau a gymerwyd
- y gwahanol bwrpasau a chynulleidfaoedd targed y gallai fod angen gwybodaeth ar eu cyfer a faint o fanylion sydd eu hangen ar gyfer y rhain
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth dderbyn a rhannu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar sut y gallai gwybodaeth gael ei derbyn a’i rhannu
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i werthuso sut y cafodd gwybodaeth ei derbyn, ei chasglu, ei dadansoddi a’i rhannu
- pam ei fod yn bwysig cofnodi gwybodaeth yn ffeithiol a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny
- theorïau sy'n berthnasol i brosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer prosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth brosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i brosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth brosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth brosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth brosesu gwybodaeth gwneud penderfyniadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD338
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Prosesu Gwybodaeth, Gwneud Penderfyniadau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu