Hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
URN: HSCCLD337
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio ag eraill i nodi materion iechyd y mae angen codi ymwybyddiaeth amdanynt, ac yna gweithio fel rhan o dîm i gynllunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau codi ymwybyddiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi pryd y mae angen hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- cael caniatâd, cael gafael ac adolygu gwybodaeth am faterion iechyd
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i adolygu’r diddordeb mewn hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i nodi a chytuno ar nodau, amcanion, cynulleidfa darged a datblygu cynllun ar gyfer hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- cyflawni'r rolau a'r cyfrifoldebau rydych chi wedi cytuno arnynt i gynnal gweithgareddau i hybu ymwybyddiaeth am faterion iechyd
- casglu adborth gan gynulleidfaoedd targed ynghylch yr effaith a gafodd gweithgareddau ar hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- gwerthuso ag eraill sut mae gweithgareddau hybu wedi cwrdd â’r nodau ac amcanion
- gweithio mewn partneriaeth i nodi arferion da ac argymell newidiadau i weithgareddau hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd yn y dyfodol
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth a fydd yn llywio eich ymarfer ar hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno
- pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i nodi a datblygu nodau, amcanion a chynlluniau i hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- sut mae adnabod ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd targed drwy weithgareddau hybu
- y gwahanol weithgareddau, yr adnoddau cysylltiedig, a sut mae dewis yr opsiwn sydd fwyaf addas ar gyfer materion iechyd a chynulleidfaoedd targed
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar weithgareddau hybu sy’n gysylltiedig â materion iechyd
- dylanwad diwylliant, cefndir a ysbrydolrwydd ar weithgareddau hybu sy’n gysylltiedig â materion iechyd
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithgareddau hybu sy'n gysylltiedig â materion iechyd
- sut mae hybu a defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol ar gyfer gweithgareddau ymwybyddiaeth iechyd
- dulliau casglu, dadansoddi a gwerthuso adborth o amrywiaeth o ffynonellau
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- theorïau sy’n berthnasol i hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD337
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ymwybyddiaeth o Faterion Iechyd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu