Darparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes

URN: HSCCLD336
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gynorthwyo unigolion ar ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion ac eraill i baratoi ar gyfer diwedd oes ac i gynllunio’r gofal a’r cymorth maent yn dymuno'i dderbyn yn ystod y broses o farw. Mae hefyd yn cynnwys darparu gofal a chymorth wrth i farwolaeth nesáu a chymryd y camau y cytunwyd arnynt yn syth ar ôl marwolaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am unigolion a chymorth a gofal diwedd oes
  2. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes
  3. cefnogi unigolion ac eraill pan fyddant yn derbyn gwybodaeth am ddiwedd oes
  4. amseru rhyngweithiadau fel bod unigolion ac eraill yn gallu prosesu'r wybodaeth, ac y gallwch chi asesu eu hymatebion
  5. sicrhau bod unigolion ac eraill yn cael yr amser, y preifatrwydd a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt ar y cychwyn i addasu i’r wybodaeth
  6. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt  
  7. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gynllunio cymorth a gofal diwedd oes  
  8. annog unigolion i nodi eu dewisiadau a'u hanghenion o ran sut, ble a phwy maent yn dymuno ei gael gyda nhw pan fyddant yn marw  
  9. nodi ble gallai dewisiadau unigolion fod yn heriol a gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â hyn yn sensitif  
  10. rhoi cymorth pan fydd unigolion neu eraill yn mynegi syniadau, teimladau neu bryderon am ddiwedd oes  
  11. monitro newidiadau ag unigolion wrth iddynt gyrraedd diwedd eu hoes
  12. gweithio ag eraill i fynd i'r afael ag unrhyw boen neu ofid y gallai unigolion ei brofi  
  13. cysylltu â’r rhai a fydd yn bresennol ag unigolion pan fydd marwolaeth yn nesáu, yn unol â’u dewisiadau a’u hanghenion
  14. sicrhau bod unigolion ac eraill yn cael y cymorth, y preifatrwydd a’r amser sydd eu hangen arnynt
  15. cyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau ar ôl marwolaeth
  16. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gofal a chymorth ar ddiwedd oes  
  17. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen i ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno  
  2. pwysigrwydd cymorth amserol sydd wedi’i gydlynu’n dda yn ystod gofal diwedd oes  
  3. sut mae darparu amgylcheddau cefnogol a phwysigrwydd cyfathrebu effeithiol pan fydd unigolion ac eraill yn cael gwybod am ddiwedd oes  
  4. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes  
  5. sut mae cefnogi unigolion ac eraill â’u hemosiynau a chymhlethdod emosiynau yn ystod gofal a chymorth ar ddiwedd oes  
  6. y mathau o adnoddau a chymorth diwedd oes sydd ar gael i unigolion ac eraill, a sut i gael gafael arnynt  
  7. y newidiadau synhwyraidd a chorfforol sy'n digwydd ar ddiwedd oes  
  8. pwysigrwydd sicrhau bod gan unigolion ac eraill gymaint o reolaeth â phosibl i gynllunio cymorth a gofal diwedd oes  
  9. sut mae gwahanol gyflyrau iechyd yn gallu effeithio ar amserlen marwolaeth  
  10. effaith bosibl diwedd oes ar unigolion a’u teuluoedd  
  11. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes  
  12. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes  
  13. dylanwad diwylliant, cefndir a ysbrydolrwydd ar ofal a chymorth ar ddiwedd oes  
  14. sut mae defnyddio strategaethau i reoli eich emosiynau a’ch ymatebion wrth ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes  
  15. y gweithdrefnau i’w dilyn yn y gweithle ar ôl marwolaeth  
  16. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer darparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes
  17. theorïau sy'n berthnasol i ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes  
  18. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer darparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes    
  19. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes  
  20. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes
  21. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth ddarparu gofal a chymorth ar ddiwedd oes, a sut i fynd i'r afael â hyn
  22. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyr

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD336

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gofal a Chymorth ar Ddiwedd Oes, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu