Darparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill

URN: HSCCLD335
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion ac eraill drwy brofedigaeth. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion ac eraill pan fyddant yn clywed gyntaf am eu colled, eu cefnogi yn ystod eu profedigaeth, a rheoli newidiadau sy'n deillio o'r brofedigaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth i’ch helpu i gefnogi unigolion ac eraill drwy brofedigaeth  
  2. creu amgylcheddau addas i gefnogi unigolion ac eraill pan fyddant yn clywed gyntaf am eu colled  
  3. amseru rhyngweithiadau fel bod unigolion ac eraill yn gallu prosesu'r wybodaeth, ac y gallwch chi asesu eu hymatebion  
  4. annog unigolion ac eraill i ofyn cwestiynau  
  5. rhoi gwybod i unigolion ac eraill am y trefniadau sy’n dilyn marwolaeth, a’u cefnogi â hynny
  6. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt  
  7. sicrhau bod unigolion ac eraill yn cael preifatrwydd ac amser ar y cychwyn i ymdopi â’r brofedigaeth
  8. cefnogi unigolion ac eraill i fynegi eu teimladau am y brofedigaeth  
  9. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi’r newidiadau a’r cymorth sydd eu hangen i ddechrau yn dilyn profedigaeth
  10. cefnogi unigolion ac eraill â’u profedigaeth ac i reoli galar a cholled mewn ffordd sy'n cwrdd â’u hanghenion  
  11. cefnogi unigolion ac eraill i addasu i newidiadau mewn ffordd sy'n cwrdd â’u hanghenion  
  12. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer darparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill    
  13. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i ddarparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth i gefnogi unigolion ac eraill drwy brofedigaeth, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno  
  2. pwysigrwydd cymorth amserol sydd wedi’i gydlynu’n dda yn ystod cyfnod o brofedigaeth  
  3. sut mae creu amgylcheddau addas a phwysigrwydd cyfathrebu effeithiol pan fydd unigolion ac eraill yn cael gwybod am eu colled
  4. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ddarparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill  
  5. sut mae cefnogi unigolion ac eraill â’u hemosiynau a chymhlethdod emosiynau yn ystod profedigaeth  
  6. y mathau o adnoddau a chymorth mewn profedigaeth sydd ar gael i unigolion ac eraill, a sut i gael gafael arnynt  
  7. effaith profedigaeth, galar a cholled ar unigolion ac ar berthynas
  8. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth ddarparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill  
  9. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddarparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill  
  10. dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar gymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill
  11. sut mae defnyddio strategaethau i reoli eich emosiynau a’ch ymatebion wrth ddarparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill  
  12. y gweithdrefnau y mae angen eu dilyn yn y gweithle ar ôl marwolaeth
  13. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer darparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill
  14. theorïau sy’n berthnasol i ddarparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill
  15. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer darparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill
  16. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth ddarparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill
  17. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ddarparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill
  18. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth ddarparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill, a sut i fynd i'r afael â hyn
  19. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth ddarparu cymorth mewn profedigaeth i unigolion ac eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD335

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cymorth mewn Profedigaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu