Hybu gweithdrefnau a systemau ansawdd

URN: HSCCLD334
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer hybu gweithdrefnau a systemau ansawdd i wella’r gwasanaeth a ddarperir. Mae'n golygu cyd-fynd â threfniadau sicrhau ansawdd sydd wedi'u dilysu'n allanol. Mae’n rhaid i chi fynd ati ar y cyd i gynllunio, datblygu, monitro ac adolygu gweithdrefnau a systemau ansawdd er mwyn gwella'n barhaus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi’r gofynion ar gyfer gweithdrefnau a systemau ansawdd sy’n cyd-fynd â threfniadau sicrhau ansawdd sydd wedi’u dilysu’n allanol  
  2. cael yr adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu gweithdrefnau a systemau ansawdd  
  3. gweithio ag unigolion ac eraill i gynllunio’r gwaith o ddatblygu gweithdrefnau a systemau ansawdd sy’n cwrdd â gofynion rheoleiddiol
  4. gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu a sefydlu gweithdrefnau a systemau ansawdd ag unigolion ac eraill  
  5. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gynllunio’r gwaith o fonitro ac adolygu gweithdrefnau a systemau ansawdd  
  6. sicrhau bod unigolion ac eraill yn cael gwybod am systemau ansawdd a’u heffaith ar ymarfer  
  7. hybu’r defnydd o wybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth fonitro gweithdrefnau a systemau ansawdd  
  8. arwain a chynorthwyo unigolion ac eraill wrth wella’n barhaus  
  9. gweithio mewn partneriaeth i archwilio cydymffurfiad â gweithdrefnau a systemau ansawdd  
  10. cydlynu’r gwaith o fonitro a gwerthuso gweithdrefnau a systemau ansawdd  
  11. casglu tystiolaeth i nodi gweithdrefnau a systemau ansawdd effeithiol, a'r newidiadau sydd eu hangen  
  12. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a mynd i’r afael â newidiadau i weithdrefnau a systemau ansawdd  
  13. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithdrefnau a systemau ansawdd
  14. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu gweithdrefnau a systemau ansawdd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae sicrhau bod gweithdrefnau a systemau sicrhau ansawdd yn cyd-fynd â threfniadau sicrhau ansawdd sydd wedi’u dilysu’n allanol  
  2. pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ac arferion cynhwysol wrth ddatblygu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  3. dylanwad diwylliant a chefndir unigolion ac eraill wrth ddatblygu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  4. yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer datblygu gweithdrefnau a systemau ansawdd  
  5. sut mae cynnwys unigolion ac eraill yn y gwaith o gynllunio a datblygu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  6. yr ystod o systemau sicrhau ansawdd sydd ar gael a’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw  
  7. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn gweithdrefnau a systemau ansawdd
  8. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol o ran cymorth ar weithdrefnau a systemau ansawdd
  9. dulliau rhannu gwybodaeth am systemau ansawdd a’u heffaith ar ymarfer
  10. yr ystod a'r math o dystiolaeth sy'n dangos effeithiolrwydd systemau ansawdd
  11. sut mae cynnwys unigolion ac eraill yn y gwaith o fonitro ac adolygu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  12. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  13. dulliau monitro a gwerthuso gweithdrefnau a systemau ansawdd
  14. sut mae gwneud dyfarniadau gwrthrychol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd gweithdrefnau a systemau ansawdd
  15. pam mae'n bwysig cael cynllun wedi'i amseru ar gyfer adolygu systemau ansawdd a rhoi newid ar waith  
  16. pwysigrwydd gwella’n barhaus â gweithdrefnau a systemau ansawdd
  17. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth hybu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  18. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth adolygu a newid gweithdrefnau a systemau ansawdd
  19. sut y gellir defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol wrth hybu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  20. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i ddarparu tystiolaeth o ansawdd gwasanaethau
  21. theorïau sy’n berthnasol i hybu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  22. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  23. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  24. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu gweithdrefnau a systemau ansawdd
  25. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu mewn gweithdrefnau a systemau ansawdd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD334

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hybu Gweithdrefnau a Systemau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu