Gweithio ag unigolion i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau

URN: HSCCLD333
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer cefnogi unigolion ac eraill i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth i wella ansawdd a chanlyniadau gwasanaethau drwy greu amgylcheddau cynhwysol sy'n annog ymgysylltiad a chyfranogiad. Mae hefyd yn golygu defnyddio ymchwil i lywio prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ddatblygu a modelu diwylliant o ymgysylltu a chyfranogi  
  2. hybu cyfleoedd i unigolion ac eraill gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau  
  3. defnyddio dulliau creadigol a hygyrch i hwyluso ac annog cyfranogiad  
  4. hwyluso a hybu perthnasoedd a chyfrifoldebau ar y cyd rhwng unigolion ac eraill  
  5. hwyluso a hybu gwaith grŵp effeithiol, deinameg a rheoleiddio emosiynol  
  6. grymuso unigolion ac eraill i rannu pryderon a chanlyniadau sydd o bwys iddynt, o’u safbwynt a’u profiadau personol  
  7. gweithio mewn partneriaeth i flaenoriaethu ac adolygu heriau cyfunol  
  8. gweithio mewn partneriaeth i gynllunio, rheoli ac adolygu ansawdd gwasanaethau  
  9. rhoi cyngor a chymorth ar ymchwil, methodoleg, casglu data, dadansoddi a chyflwyno canfyddiadau  
  10. cefnogi unigolion ac eraill i nodi dulliau a mathau o ymchwil
  11. cynllunio a chwblhau ymchwil a chasglu data ag unigolion ac eraill
  12. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ddadansoddi data a chyflwyno canfyddiadau ymchwil  
  13. datblygu, profi a gwerthuso amrywiaeth o syniadau ac atebion i broblemau mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill
  14. cefnogi unigolion ac eraill i wneud penderfyniadau a mireinio atebion  
  15. darparu gwybodaeth am adnoddau i gynllunio atebion a'u costio    
  16. gweithio mewn partneriaeth i gynllunio sut i weithredu, monitro ac adolygu atebion a chyflawni canlyniadau  
  17. cefnogi unigolion ac eraill i nodi a rheoli risgiau mewn cynlluniau  
  18. cefnogi unigolion ac eraill i weithredu, monitro ac adolygu cynlluniau yn erbyn canlyniadau y cytunwyd arnynt  
  19. cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar y canlyniadau a gyflawnwyd, a mynd i’r afael â'r newidiadau sy’n ofynnol  
  20. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio ag unigolion i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaeth  
  21. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth weithio ag unigolion i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae creu a modelu diwylliant o ymgysylltu a chyfranogi
  2. pam ei bod yn bwysig cynnwys safbwyntiau a phrofiadau bywyd unigolion ac eraill wrth gynllunio, monitro ac adolygu gwasanaethau
  3. pam y dylid cynnwys unigolion ac eraill ar bob cam o'r broses gynllunio, monitro ac adolygu
  4. dulliau creadigol, cynhwysol a hygyrch a all gefnogi ac annog cyfranogiad  
  5. dulliau ar gyfer hybu perthnasoedd a chyfrifoldebau wrth weithio mewn partneriaeth  
  6. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth weithio ag unigolion i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau  
  7. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau
  8. ffyrdd o rymuso a galluogi unigolion ac eraill i rannu eu pryderon a’u profiadau
  9. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau
  10. dulliau ar gyfer diffinio a fframio problemau
  11. sut mae sicrhau bod ymchwil yn foesegol, yn ddiogel, yn ddilys, yn gyfreithlon, yn dryloyw, yn gynhwysol ac yn barchus  
  12. ffyrdd o nodi dulliau a mathau o ymchwil  
  13. pwysigrwydd datblygu cynlluniau ymchwil a chasglu data perthnasol  
  14. sut mae dadansoddi data, cael gafael ar wybodaeth berthnasol, a chyflwyno canfyddiadau mewn fformatau sy'n addas ar gyfer y pwrpas a'r gynulleidfa darged
  15. dulliau creadigol i gefnogi cynhyrchu syniadau a gwerthuso atebion
  16. pam ei fod yn bwysig datblygu a phrofi amrywiaeth o syniadau ac atebion
  17. sut mae nodi'r asedau a'r adnoddau sydd ar gael, a mynd i'r afael â heriau o ran adnoddau  
  18. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau
  19. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y gwaith o gynllunio, monitro ac adolygu gwasanaethau
  20. dulliau o gael adborth ar ganlyniadau y cytunwyd arnynt a pham ei fod yn bwysig
  21. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau
  22. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio ag unigolion i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau
  23. theorïau sy’n berthnasol i weithio ag unigolion i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau
  24. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithio ag unigolion i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau  
  25. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau
  26. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth weithio ag unigolion i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau, a sut i fynd i’r afael â hyn
  27. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio ag unigolion i gynllunio, monitro ac adolygu ansawdd gwasanaethau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD333

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynllunio, Monitro, Adolygu Ansawdd Gwasanaethau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu