Gweithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi

URN: HSCCLD332
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys y gofynion pan fyddwch yn cael eich cyflogi gan unigolyn sy’n cyfarwyddo ei gymorth ei hun. Mae'r safon yn cynnwys datblygu eich dealltwriaeth o gymorth hunangyfeiriedig ac egluro hawliau a chyfrifoldebau eich cyflogwr a chi eich hun. Mae’n mynd i’r afael â’r angen i ddatblygu eich perthynas a sefydlu ffyrdd o weithio rydych chi’n cytuno arnynt. Mae'r safon hefyd yn cynnwys cyflawni eich rôl fel cyflogai i unigolion a chydweithio er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am unigolion a chymorth hunangyfeiriedig
  2. nodi cysylltiadau rhwng cymorth hunangyfeiriedig a gwahanol fathau o gyllid ar gyfer gwasanaethau unigol
  3. cefnogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth, adnoddau a chyngor am eu cyfrifoldebau fel cyflogwyr  
  4. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi cryfderau, galluoedd a phrofiadau a’r math a lefel o gymorth sydd ei angen i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
  5. nodi a chytuno ar rolau, cyfrifoldebau a hawliau cyflogwr a chyflogai mewn perthynas waith
  6. mynd ati ag unigolion i egluro terfynau'r berthynas waith, y ffiniau proffesiynol, y ddyletswydd gofal a'r safonau y mae'n rhaid i chi lynu atynt  
  7. gweithio mewn partneriaeth i nodi a chytuno ar sut y bydd risgiau’n cael eu rheoli, sut y bydd penderfyniadau sy’n effeithio ar waith yn cael eu gwneud, a sut y bydd materion yn cael eu datrys
  8. penderfynu sut y bydd eich gwaith yn cael ei fonitro a'i adolygu a sut y byddwch yn cael goruchwyliaeth a chymorth ffurfiol neu anffurfiol  
  9. cael mynediad at ddysgu a datblygu i’ch galluogi i ymgymryd â’ch rolau a’ch cyfrifoldebau
  10. rhoi ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt ar waith a sicrhau bod eich gweithredoedd yn cyd-fynd â'ch rôl fel cyflogai i’r unigolion rydych chi'n eu cefnogi
  11. cymryd rhan mewn dulliau y cytunwyd arnynt ar gyfer goruchwylio, cefnogi a monitro eich gwaith
  12. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi arferion da a mynd i’r afael ag unrhyw heriau neu newidiadau sy’n ofynnol
  13. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi
  14. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth weithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a chymorth hunangyfeiriedig, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno  
  2. y gwerthoedd sy'n sail i gymorth hunangyfeiriedig
  3. y gwahanol fathau o gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth hunangyfeiriedig
  4. hawliau a chyfrifoldebau cyflogwyr a chyflogeion
  5. terfynau perthynas waith, ffiniau proffesiynol a dyletswydd gofal wrth weithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi'n eu cynorthwyo
  6. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i feithrin perthynas wrth weithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi
  7. y mathau a’r lefel o gymorth y gall fod angen ar unigolion i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
  8. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar weithio â’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi
  9. dylanwad diwylliant, cefndir a ysbrydolrwydd ar weithio â’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi
  10. rôl perthnasoedd, gwerthoedd ac ymddygiad ar lesiant unigolion
  11. y ffactorau sy’n effeithio ar berthynas a sut i fynd i’r afael â heriau yn y berthynas rhwng cyflogwr a chyflogai
  12. sut gall pŵer gael ei ddefnyddio a’i gamddefnyddio mewn perthynas rhwng cyflogwr a chyflogai
  13. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth weithio â’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi
  14. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn y berthynas rhwng cyflogwr a chyflogai
  15. pam mae cyfathrebu proffesiynol yn bwysig yn y berthynas rhwng cyflogwr a chyflogai
  16. ystyriaethau allweddol wrth weithio ar eich pen eich hun yn unol â gweithdrefnau'r gweithle  
  17. ffyrdd y gall eich gwaith gael ei fonitro a'i adolygu gan yr unigolyn fel eich cyflogwr
  18. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi
  19. theorïau sy'n berthnasol i weithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi
  20. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi
  21. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth weithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi
  22. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth weithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi
  23. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth weithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi, a sut i fynd i'r afael â hyn
  24. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio fel cyflogai i’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD332

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithio fel Cyflogai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu