Cydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
URN: HSCCLD331
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion wrth iddynt baratoi ar gyfer cael eu trosglwyddo, gan gydlynu ag asiantaethau a gwasanaethau, ac yna cefnogi unigolion ac eraill tra byddant yn cael eu trosglwyddo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am unigolion a’u gofynion trosglwyddo
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi pwrpas trosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar sut mae paratoi ar gyfer trosglwyddiadau, a’u rhoi ar waith, yn unol â dewisiadau ac anghenion yr unigolyn, ynghyd ag amserlenni a gofynion asiantaethau a gwasanaethau
- cefnogi unigolion i adnabod a chael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen arnynt i drosglwyddo rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- adolygu neu gwblhau asesiadau risg ar gyfer trosglwyddiadau rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- cydlynu’r gwaith o drosglwyddo ag unigolion, asiantaethau a gwasanaethau
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i drosglwyddo rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i baratoi ar gyfer a chymryd rhan mewn trosglwyddiadau rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion, asiantaethau a gwasanaethau, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno
- sut mae adolygu neu gwblhau asesiadau risg ar gyfer trosglwyddiadau rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion â throsglwyddiadau rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolyn i baratoi ar gyfer a chymryd rhan mewn trosglwyddiadau rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- y mathau o wybodaeth, adnoddau a chymorth a allai helpu unigolion ac eraill yn ystod trosglwyddiadau rhwng asiantaethau a gwasanaethau, a sut i gael gafael arnynt
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol unigolion wrth drosglwyddo rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- dylanwad diwylliant a chefndir ar y gwaith o baratoi a chymryd rhan mewn trosglwyddiadau rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- pam mae angen i unigolion gael eu trosglwyddo rhwng asiantaethau a gwasanaethau a'r effaith y gall hyn ei chael
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i drosglwyddo rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth drosglwyddo rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- sut mae cydlynu amserlenni a chwrdd â gwahanol ofynion asiantaethau a gwasanaethau mewn perthynas â throsglwyddiadau
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol wrth drosglwyddo rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar drosglwyddiadau rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- theorïau sy’n berthnasol i drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth gydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gydlynu’r gwaith o drosglwyddo unigolion rhwng asiantaethau a gwasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD331
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Trosglwyddo Unigolion, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu