Hybu pecynnau gofal neu gymorth drwy weithio mewn partneriaeth

URN: HSCCLD330
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion wrth gyfrannu at weithio mewn partneriaeth i gynorthwyo unigolion i gael gafael ar becynnau gofal neu gymorth personol. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i asesu eu dewisiadau a’u hanghenion, ac yna gweithio gyda’i gilydd i gynllunio, gweithredu a gwerthuso pecynnau gofal neu gymorth personol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill yn y prosesau asesu, cynllunio a gweithredu ar gyfer pecynnau gofal neu gymorth i unigolion
  2. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a fydd yn mynd i’r afael â dewisiadau ac anghenion ar gyfer pecynnau gofal neu gymorth  
  3. grymuso a chynorthwyo unigolion ac eraill i adolygu, adnabod a dethol dewisiadau o’r opsiynau sydd ar gael  
  4. gweithio ag unigolion ac eraill i gael gafael ar becynnau gofal neu gymorth y cytunwyd arnynt, a’u defnyddio
  5. cyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau yn y broses asesu, cynllunio a gweithredu
  6. grymuso a chynorthwyo unigolion ac eraill yn y broses asesu, cynllunio a gweithredu  
  7. annog unigolion ac eraill i gymryd rhan mewn adolygiadau i roi adborth ar sut mae pecynnau gofal neu gymorth wedi cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion  
  8. rhoi adborth ar sut mae pecynnau gofal neu gymorth wedi cwrdd â dewisiadau ac anghenion unigolion
  9. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw newidiadau i becynnau gofal neu gymorth  
  10. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu pecynnau gofal neu gymorth drwy weithio mewn partneriaeth
  11. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu pecynnau gofal neu gymorth drwy weithio mewn partneriaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o wasanaethau sydd ar gael i ddarparu pecynnau gofal neu gymorth i unigolion  
  2. sut mae cael gafael ar wybodaeth am becynnau gofal neu gymorth, a darparu’r wybodaeth honno
  3. sut mae adolygu a gwerthuso gwybodaeth am becynnau gofal neu gymorth  
  4. sut gall pecynnau gofal neu gymorth ddylanwadu ar lesiant unigolion ac eraill  
  5. rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill yn y prosesau asesu, cynllunio a gweithredu ar gyfer pecynnau gofal neu gymorth i unigolion
  6. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynorthwyo unigolion i gael gafael ar becynnau gofal neu gymorth  
  7. sut mae asesu, cynllunio a gweithredu pecynnau gofal neu gymorth personol  
  8. egwyddorion gweithio mewn partneriaeth ag eraill  
  9. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth asesu, cynllunio a gweithredu pecynnau gofal neu gymorth ag unigolion
  10. gofynion eich gweithle mewn perthynas â systemau cyfathrebu ar gyfer gweithio mewn partneriaeth  
  11. effaith strwythur, diwylliant, cefndir a phrosesau’r gweithle ar weithio mewn partneriaeth
  12. sut mae ymateb i wrthdaro buddiannau, materion a phryderon wrth weithio mewn partneriaeth  
  13. sut mae cyfrannu at adolygiadau o becynnau gofal neu gymorth, a pham eu bod yn bwysig  
  14. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion    
  15. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar becynnau gofal neu gymorth  
  16. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth weithio mewn partneriaeth
  17. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu pecynnau gofal neu gymorth drwy weithio mewn partneriaeth
  18. theorïau sy’n berthnasol i hybu pecynnau gofal neu gymorth drwy weithio mewn partneriaeth
  19. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu pecynnau gofal neu gymorth drwy weithio mewn partneriaeth
  20. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu pecynnau gofal neu gymorth drwy weithio mewn partneriaeth
  21. sut y gall eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod effeithio wrth hybu pecynnau gofal neu gymorth drwy weithio mewn partneriaeth, a sut i fynd i'r afael â hyn
  22. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu pecynnau gofal neu gymorth drwy weithio mewn partneriaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD330

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Pecynnau Gofal, Cymorth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu