Hybu a datblygu ymarfer myfyriol

URN: HSCCLD33
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth ddatblygu eich ymarfer myfyriol ac wrth hybu eraill i fyfyrio. Mae'n golygu cysoni eich ymarfer â gweledigaeth, gwerthoedd a safonau proffesiynol y gweithle, a hybu diwylliant o ymarfer myfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar sut mae eich rôl a'ch cyfrifoldebau yn cyd-fynd â gweledigaeth, gwerthoedd a chanlyniadau'r gweithle  
  2. nodi safonau cyfredol ymarfer proffesiynol sy'n berthnasol i'ch rôl a'ch cyfrifoldebau gwaith
  3. gofyn am adborth gan eraill ynghylch eich gwybodaeth, sgiliau ac ymarfer proffesiynol
  4. mynd ati ag eraill i werthuso sut mae eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch ymarfer yn cwrdd â safonau cyfredol ymarfer proffesiynol
  5. datblygu eich sgiliau ymarfer myfyriol
  6. myfyrio ar eich ymarfer wrth weithio
  7. myfyrio ar eich profiad ymarfer blaenorol  
  8. dadansoddi sut mae eich gwerthoedd, eich diwylliant a'ch rhagdybiaethau yn effeithio ar eraill
  9. nodi’r hyn rydych wedi’i ddysgu o fyfyrio a sut i wella'r ffordd rydych chi'n gweithio
  10. blaenoriaethu meysydd i’w datblygu a chynllunio sut y byddant yn cael eu cyflawni
  11. gofyn am gymorth gan eraill i nodi a goresgyn heriau wrth i chi ddysgu a datblygu
  12. ymgymryd â gweithgareddau dysgu a datblygu  
  13. defnyddio dysgu newydd yn eich ymarfer  
  14. defnyddio prosesau goruchwylio ac arfarnu ar gyfer ymarfer myfyriol a datblygu dysgu a datblygu newydd
  15. defnyddio prosesau goruchwylio ac arfarnu i fonitro a gwerthuso dysgu a datblygu newydd
  16. rhannu gwybodaeth ac ymarfer newydd ag eraill i wella eu dysgu
  17. modelu a hybu diwylliant o fyfyrio a datblygiad proffesiynol parhaus  
  18. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu a datblygu ymarfer myfyriol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae ymarfer myfyriol yn gallu cefnogi gweledigaeth, gwerthoedd a chanlyniadau'r gweithle
  2. rôl ymarfer myfyriol o ran hybu safonau ymarfer proffesiynol  
  3. pwysigrwydd defnyddio tystiolaeth, safonau ac adborth gan eraill i lywio ymarfer myfyriol
  4. sut mae defnyddio modelau myfyriol i ddatblygu eich sgiliau myfyrio a gwella'r ffordd rydych chi’n gweithio
  5. egwyddorion ymarfer myfyriol a pham ei fod yn bwysig o ran gwella dysgu a datblygu
  6. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma mewn ymarfer myfyriol a dysgu a datblygu
  7. sut mae myfyrio wrth weithio a defnyddio profiadau bob dydd fel cyfleoedd dysgu
  8. sut mae myfyrio ar brofiadau ymarfer blaenorol a defnyddio'r profiadau hyn fel cyfleoedd dysgu
  9. dylanwad diwylliant, cefndir a ysbrydolrwydd ar ymarfer myfyriol
  10. pam ei fod yn bwysig dadansoddi eich meddyliau, eich teimladau a'ch gweithredoedd eich hun ac eraill
  11. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi o ran ymarfer myfyriol
  12. sut mae ymarfer myfyriol yn gallu gwella rheoleiddio emosiynol, gwytnwch a llesiant yn y gweithle
  13. sut mae defnyddio cyflawniadau a heriau fel cyfleoedd dysgu
  14. sut mae goresgyn heriau i ddysgu
  15. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddatblygu ymarfer myfyriol a dysgu a datblygu
  16. yr ystod o ddulliau dysgu ac adnoddau, gan gynnwys adnoddau digidol a sut mae cael gafael arnynt
  17. sut mae rhoi'r hyn a ddysgwyd o'r newydd ar waith a throsglwyddo sgiliau i sefyllfaoedd newydd
  18. sut mae myfyrio ar y gwahaniaeth mae dysgu newydd wedi’i wneud i’ch ymarfer
  19. rôl prosesau goruchwylio ac arfarnu ar gyfer ymarfer myfyriol a datblygu dysgu a datblygu newydd
  20. rôl prosesau goruchwylio ac arfarnu i fonitro a gwerthuso dysgu a datblygu newydd
  21. dulliau rhannu eich gwybodaeth a gwella dysgu eraill
  22. eich cyfrifoldeb eich hun dros ddatblygiad proffesiynol parhaus  
  23. sut mae modelu a gwreiddio diwylliant o fyfyrio a datblygiad proffesiynol parhaus
  24. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu a datblygu ymarfer myfyriol
  25. damcaniaethau sy’n berthnasol i hybu a datblygu ymarfer myfyriol
  26. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu a datblygu ymarfer myfyriol  
  27. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu a datblygu ymarfer myfyriol
  28. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu a datblygu ymarfer myfyriol, a sut i fynd i'r afael â hyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD33

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ymarfer Myfyriol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu