Hybu gweithio mewn partneriaeth ag eraill
URN: HSCCLD329
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn amlinellu'r gofynion wrth i chi hybu gweithio mewn partneriaeth ag eraill. Mae hyn yn cynnwys datblygu a chynnal trefniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol ag eraill yn eich gweithle ac yn allanol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio ag eraill i adnabod cynlluniau gweithredu ar gyfer gweithio mewn partneriaeth sy'n cynnwys manylion ei nodau, beth fydd yn digwydd, pwy sy'n gyfrifol am wneud beth ac erbyn pryd
- gweithio ag eraill i gytuno ar ddulliau o fonitro, adolygu a gwerthuso cynnydd gweithio mewn partneriaeth
- hybu ffyrdd o weithio sy'n annog perthnasoedd effeithiol, cyfranogiad, dealltwriaeth a pharch at eraill
- hybu gwerthoedd, ymddygiad a pholisïau’r gweithle
- cyflawni'r rolau a'r cyfrifoldebau rydych chi wedi cytuno arnynt wrth weithio mewn partneriaeth
- cael gafael ar wybodaeth ac adnoddau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth
- cyfrannu at y broses o fonitro, adolygu a gwerthuso gweithio mewn partneriaeth, a chynorthwyo eraill i wneud hynny
- adnabod manteision a mynd i'r afael ag unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r trefniadau gweithio mewn partneriaeth ag eraill
- rhannu gwybodaeth ag eraill yn unol â’r gofynion gweithio mewn partneriaeth y cytunwyd arnynt
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu gweithio mewn partneriaeth ag eraill
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu gweithio mewn partneriaeth ag eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwrpas gweithio mewn partneriaeth ag eraill
- rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth weithio mewn partneriaeth
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth weithio mewn partneriaeth ag eraill
- sut mae datblygu cynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt wrth weithio mewn partneriaeth ag eraill, a pham
- systemau cyfathrebu eich gweithle ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ag eraill
- effaith strwythur, diwylliant, cefndir a phrosesau’r gweithle ar weithio mewn partneriaeth yn fewnol ac yn allanol
- sut mae cyfrannu at fonitro, adolygu a gwerthuso gweithio mewn partneriaeth ag eraill, a nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth
- sut mae adnabod arferion gorau a’r newidiadau sydd eu hangen wrth weithio mewn partneriaeth ag eraill
- y ffactorau a allai effeithio ar weithio mewn partneriaeth
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar weithio mewn partneriaeth ag eraill
- sut mae ymateb i wrthdaro buddiannau, materion a phryderon wrth weithio mewn partneriaeth ag eraill
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth weithio mewn partneriaeth ag eraill
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth weithio mewn partneriaeth ag eraill
- sut y gellir defnyddio technoleg ddigidol wrth weithio mewn partneriaeth ag eraill
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu gweithio mewn partneriaeth ag eraill
- theorïau sy'n berthnasol i weithio mewn partneriaeth ag eraill
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu gweithio mewn partneriaeth ag eraill
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu gweithio mewn partneriaeth ag eraill
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu gweithio mewn partneriaeth ag eraill, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio mewn partneriaeth ag eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD329
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gweithio mewn Partneriaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu