Gweithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
URN: HSCCLD328
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion pan fyddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill sydd â chyfrifoldebau gofalu am unigolion. Mae hyn yn cynnwys cynllunio sut i weithio ar y cyd yn effeithiol a’u cefnogi i nodi a chwrdd â’u hanghenion drwy gael gafael ar adnoddau, gwasanaethau a chyfleusterau. Mae'r safon hefyd yn ymdrin ag adolygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, eraill ac unigolion o fewn y trefniadau gweithio mewn partneriaeth
- cytuno ar ganlyniadau eich gwaith gyda'ch gilydd a sut y byddant yn cael eu cyflawni
- cefnogi eraill i nodi adnoddau, gwasanaethau neu gyfleusterau a fydd yn mynd i’r afael â’u dewisiadau a’u hanghenion
- grymuso eraill i adolygu a nodi eu dewisiadau o’r opsiynau sydd ar gael
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn darpariaeth ac unrhyw heriau neu risgiau posibl i’r unigolion sy’n derbyn gofal tra bydd adnoddau, gwasanaethau a chyfleusterau’n cael eu defnyddio
- annog a chefnogi annibyniaeth eraill i gael mynediad at adnoddau, gwasanaethau neu gyfleusterau, a’u defnyddio
- cyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau dros unigolion tra bydd adnoddau, gwasanaethau neu gyfleusterau’n cael eu defnyddio
- cefnogi eraill i roi adborth ar sut mae adnoddau, gwasanaethau neu gyfleusterau wedi cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i roi adborth ar sut y llwyddwyd i gwrdd â'r canlyniadau gweithio mewn partneriaeth, gan nodi’r arferion gorau a’r newidiadau i fynd i’r afael â nhw
- cymryd cyfrifoldeb dros adolygu a mynd i’r afael â’r newidiadau sydd eu hangen i’r trefniadau gweithio mewn partneriaeth
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth weithio mewn partneriaeth â'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- hawliau’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i gael cefnogaeth yn y rôl ofalu
- yr effaith y gall cyfrifoldebau gofalu ei chael ar iechyd a lles
- sut mae cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i gymryd cyfrifoldeb dros hybu eu hiechyd, eu llesiant a'u hunanofal eu hunain
- y mathau o adnoddau, gwasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael i gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol sydd ar gael i gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- sut mae nodi a chytuno ar ganlyniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, a phwysigrwydd hyn
- sut mae gweithio ag unigolion ac eraill i nodi a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn darpariaeth a’r heriau neu risgiau posibl
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i weithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth weithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- sut y gall pŵer gael ei ddefnyddio a’i gamddefnyddio ym mherthynas y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu a’r unigolion sy’n derbyn gofal
- sut mae ymateb i bryderon am wahaniaethu, gweithredu neu ddiffyg gweithredu, a allai effeithio ar unigolion neu’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- theorïau sy’n berthnasol i weithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth weithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth weithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD328
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cyfrifoldebau Gofalu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu