Gweithio ag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
URN: HSCCLD327
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas. Mae hyn yn cynnwys gweithio ag unigolion i nodi’r perthnasoedd sy'n bwysig iddynt, eu cefnogi i ddatblygu a chynnal eu perthynas, a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn ymwneud â’r berthynas.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac anghenion unigolion a’u perthynas ag eraill
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi’r perthnasoedd sy’n bwysig iddynt, a’u hanghenion o ran perthnasoedd nawr ac yn y dyfodol
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i drafod agweddau cadarnhaol perthnasoedd a nodi’r risgiau, yr heriau, neu’r cyfyngiadau
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gynllunio sut gall unigolion ddatblygu a chynnal perthynas wrth i ddewisiadau, anghenion ac amgylchiadau newid
- annog unigolion ac eraill i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddatblygu neu gynnal perthynas
- cefnogi unigolion i gymryd rhan mewn perthynas ag eraill
- arsylwi rhyngweithiadau rhwng unigolion ac eraill a sicrhau cydbwysedd rhwng preifatrwydd, diogelwch ac ymyrryd
- grymuso ac annog unigolion ac eraill i fyfyrio ar ryngweithiadau a nodi manteision a heriau perthynas
- cefnogi unigolion ac eraill os yw perthnasoedd yn cael eu cynnal neu yn gorffen
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio ag unigolion i ddatblygu neu gynnal perthynas
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth weithio ag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rôl perthnasoedd o ran iechyd a lles unigolion
- sut mae cefnogi unigolion i gyfathrebu eu hanghenion o ran perthnasoedd nawr ac yn y dyfodol
- sut mae cefnogi unigolion ac eraill i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol
- sut y gellir defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i ddatblygu a chynnal perthnasoedd
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth weithio ag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- y ffactorau a allai effeithio ar berthynas a sut i fynd i’r afael â’r rhain
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y ffordd mae perthnasoedd yn cael eu datblygu a’u cynnal
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar y ffordd mae perthnasoedd yn cael eu datblygu a’u cynnal
- yr effaith y gall perthynas ag unigolion ei chael ar eraill
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol mewn perthynas
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i weithio ag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a’u perthynas ag eraill, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno
- sut mae rheoli risgiau a chyfyngiadau diogelu ar berthnasoedd
- pwysigrwydd arsylwi ar ryngweithiadau rhwng unigolion ac eraill a sut mae sicrhau cydbwysedd rhwng preifatrwydd, diogelwch ac ymyrryd
- sut y gall pŵer gael ei ddefnyddio a’i gamddefnyddio mewn perthynas
- sut y gall colled a newid mewn perthynas effeithio ar unigolion ac eraill
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi unigolion i gynnal perthynas
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio ag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- theorïau sy’n berthnasol i weithio ag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithio ag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth weithio ag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth weithio ag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio ag unigolion i ddatblygu a chynnal perthynas
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD327
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Datblygu a Chynnal Perthynas, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu