Paratoi a chynnal gweithgareddau grŵp
URN: HSCCLD326
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth baratoi a chynnal gweithgareddau grŵp. Mae hyn yn cynnwys hybu cyfranogiad unigolion, paratoi a chefnogi unigolion a'r grŵp drwy weithgareddau, a chyfrannu at werthuso gweithgareddau'r grŵp. Mae hefyd yn cynnwys cyfrannu at hybu’r grwpiau cefnogi presennol, cyfrannu at ffurfio grwpiau i gefnogi anghenion unigolion, a chefnogi unigolion a grwpiau i redeg eu grwpiau eu hunain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i baratoi a chynnal gweithgareddau grŵp i unigolion
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am grwpiau, unigolion a gweithgareddau
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gadarnhau’r pwrpas a’r canlyniadau y bydd gweithgareddau’r grŵp yn anelu at eu cyflawni
- gweithio mewn partneriaeth i nodi sut y bydd gweithgareddau’r grŵp yn cael eu cytuno, eu paratoi a’u gweithredu yn unol â dewisiadau’r grŵp ac anghenion unigolion
- cynorthwyo unigolion i nodi a chael gafael ar wybodaeth, adnoddau neu gymorth i ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau
- annog a chefnogi pob unigolyn yn y grŵp i ddewis a chaniatáu i’r gweithgareddau y cytunwyd arnynt
- adolygu neu gwblhau asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau grŵp
- cefnogi unigolion ac eraill i baratoi amgylcheddau ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau grŵp
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gyflwyno a monitro gweithgareddau grŵp
- annog a chefnogi pob unigolyn yn y grŵp i baratoi ar gyfer gweithgareddau grŵp a chymryd rhan ynddynt
- cymryd cyfrifoldeb dros gefnogi eraill i adael amgylcheddau’n barod i’w defnyddio y tro nesaf ar ôl gweithgareddau’r grŵp
- cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae gweithgareddau’r grŵp wedi cwrdd â’r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn ogystal â gofynion unigolion
- rhoi adborth ar sut mae gweithgareddau’r grŵp wedi cwrdd â’r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn ogystal â gofynion unigolion
- gweithio mewn partneriaeth i nodi a gwneud newidiadau i weithgareddau’r grŵp at y tro nesaf
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer paratoi a chynnal gweithgareddau grŵp
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i baratoi a chynnal gweithgareddau grŵp
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am weithgareddau grŵp, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno
- sut mae cwblhau neu adolygu asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau grŵp
- sut mae annog unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol unigolion drwy addasu gweithgareddau grŵp
- dylanwad diwylliant a chefndir unigolyn ar ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp
- effaith gweithgareddau grŵp ar lesiant unigolion a’r grŵp cyfan
- y mathau o wybodaeth, adnoddau a rhwydweithiau cymorth a allai helpu unigolion yn ystod gweithgareddau’r grŵp, a sut i gael gafael arnynt
- sut mae cael gafael ar wybodaeth unigolion mewn perthynas â gweithgareddau grŵp ehangach, a sut mae darparu’r wybodaeth honno
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i baratoi ar gyfer gweithgareddau grŵp a’u defnyddio yn ystod y gweithgareddau hynny
- y mathau o amgylcheddau sydd fwyaf addas ar gyfer gweithgareddau grŵp, a sut i’w paratoi
- y mathau o adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau grŵp a sut i gael gafael arnynt
- sut mae cefnogi eraill i baratoi amgylcheddau ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau grŵp
- y mathau o arferion cynaliadwy y gellir eu defnyddio wrth baratoi a chynnal gweithgareddau grŵp
- y gwahanol sgiliau y gall eraill eu cyfrannu at weithgareddau grŵp, a sut i’w defnyddio
- sut mae monitro cyfranogiad mewn gweithgareddau grŵp
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithgareddau grŵp
- ffyrdd o gefnogi unigolion ac eraill i barhau â gweithgareddau grŵp heb eich cyfraniad
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu, rhoi adborth a gwneud newidiadau i weithgareddau grŵp
- sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar y cymorth sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau grŵp
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer paratoi a chynnal gweithgareddau grŵp
- theorïau sy’n berthnasol i baratoi a chynnal gweithgareddau grŵp
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer paratoi a chynnal gweithgareddau grŵp
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth baratoi a chynnal gweithgareddau grŵp
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i baratoi a chynnal gweithgareddau grŵp
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod gweithgareddau grŵp
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth baratoi a chynnal gweithgareddau grŵp, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth baratoi a chynnal gweithgareddau grŵp
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD326
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Paratoi a Chynnal Gweithgareddau Grwp, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu