Paratoi a chynnal gweithgareddau ag unigolion

URN: HSCCLD325
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer paratoi a chynnal gweithgareddau i gwrdd â dewisiadau, anghenion a chanlyniadau unigolion. Mae hyn yn cynnwys gweithio ag unigolion ac eraill i nodi a dewis gweithgareddau ac yna cymryd cyfrifoldeb dros baratoi, cynnal a gwerthuso’r gweithgareddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i baratoi a chynnal gweithgareddau i gefnogi unigolion  
  2. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am unigolion a gweithgareddau  
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a chadarnhau’r canlyniadau y bydd y gweithgareddau’n anelu at eu cyflawni yn unol â chynlluniau gofal neu gymorth  
  4. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gytuno ar sut y bydd gweithgareddau’n cael eu paratoi a’u cynnal yn unol â dewisiadau’r unigolyn, ac anghenion a gofynion y gweithgareddau  
  5. cefnogi annibyniaeth unigolion i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddewis gweithgareddau  
  6. adolygu neu gwblhau asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau
  7. cymryd cyfrifoldeb dros gefnogi eraill i nodi, gosod a chael mynediad at amgylcheddau ar gyfer gweithgareddau  
  8. cymryd cyfrifoldeb dros gefnogi eraill i nodi, gosod a chael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau  
  9. gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gynnal gweithgareddau  
  10. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i baratoi ar gyfer gweithgareddau a chymryd rhan ynddynt
  11. annog a chynorthwyo unigolion pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau  
  12. cymryd cyfrifoldeb dros gefnogi eraill i adael amgylcheddau’n lân ac yn daclus ar ôl y gweithgareddau yn barod i’w defnyddio y tro nesaf  
  13. cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae’r gweithgareddau wedi cwrdd â’u dewisiadau, eu hanghenion a’r canlyniadau maent wedi cytuno arnynt  
  14. rhoi adborth ar sut mae’r gweithgareddau wedi cwrdd â’r dewisiadau, anghenion a’r canlyniadau yr oedd unigolion wedi cytuno arnynt
  15. gweithio mewn partneriaeth i adolygu adborth, nodi arferion da a gwneud y newidiadau sy'n ofynnol i’r gweithgareddau  
  16. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer paratoi a chynnal gweithgareddau ag unigolion  
  17. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i baratoi a chynnal gweithgareddau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a gweithgareddau, a sut mae adolygu a gwerthuso'r wybodaeth honno  
  2. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau  
  3. dylanwad diwylliant a chefndir ar ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau    
  4. sut mae cwblhau asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau  
  5. sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol unigolion drwy addasu gweithgareddau  
  6. sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau
  7. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau  
  8. sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithgareddau    
  9. y mathau o wybodaeth, adnoddau a chymorth a allai helpu unigolion yn ystod gweithgareddau, a sut i gael gafael arnynt
  10. y gwahanol fathau o weithgareddau a’r effaith gadarnhaol y gallant ei chael
  11. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i baratoi ar gyfer gweithgareddau a’u defnyddio yn ystod y gweithgareddau hynny
  12. y mathau o amgylcheddau sydd fwyaf addas ar gyfer gweithgareddau, a sut i’w paratoi
  13. y mathau o adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a sut i gael gafael arnynt, gan ystyried arferion cynaliadwy  
  14. sut mae cefnogi eraill i baratoi amgylcheddau ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau, gan ystyried arferion cynaliadwy  
  15. y gwahanol sgiliau y gall eraill eu cyfrannu at weithgareddau, a sut i’w defnyddio
  16. sut mae monitro cyfranogiad mewn gweithgareddau
  17. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar weithgareddau
  18. sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar y cymorth sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau
  19. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer paratoi a chynnal gweithgareddau ag unigolion
  20. theorïau sy’n berthnasol i baratoi a chynnal gweithgareddau ag unigolion  
  21. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion â gweithgareddau
  22. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn gweithgareddau
  23. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i baratoi a chynnal gweithgareddau  
  24. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod gweithgareddau  
  25. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth baratoi a chynnal gweithgareddau ag unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
  26. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth baratoi a chynnal gweithgareddau ag unigolion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD325

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Paratoi a Chynnal Gweithgareddau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu