Hybu’r defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
URN: HSCCLD324
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion ar gyfer hybu’r defnydd o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd ar gyfer unigolion. Mae hyn yn cynnwys trefnu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd addas a chefnogi unigolion ac eraill i gyfathrebu â’i gilydd drwy ddarparu cyfieithwyr ar y pryd. Mae hefyd yn cynnwys cefnogi’r rhai sy'n ymwneud â'r gwaith i adolygu effeithiolrwydd y gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i hybu’r defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am unigolion a gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
- adolygu neu gwblhau asesiadau risg ar gyfer gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- nodi a chael gafael ar wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi dewisiadau, anghenion a chanlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer defnyddio gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- gweithio ag unigolion ac eraill mewn ffyrdd sy'n hybu hawliau a dewisiadau, yn parchu profiadau, arbenigedd, galluoedd ac yn hybu cynhwysiant
- cael gafael ar adnoddau ac amgylcheddau ar gyfer defnyddio gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion, a’u sefydlu
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion a chyfieithwyr neu gyfieithwyr ar y pryd i sicrhau bod unigolion yn cael cefnogaeth i gyfathrebu eu meddyliau, eu syniadau, eu barn a’u dymuniadau
- cynorthwyo unigolion ac eraill i roi adborth p’un a lwyddwyd i gwrdd â chanlyniadau wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a nodi a mynd i’r afael â newidiadau i wella gwasanaethau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu’r defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ffurfiau cyfathrebu a allai fod angen gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- sut mae dod o hyd i wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a’u defnyddio
- rolau cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd
- sut y gellir defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gynorthwyo unigolion â chyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- dylanwad diwylliant a chefndir ar y defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth hybu’r defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
- sut mae cwblhau’r asesiadau risg, y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
- sut mae adolygu adborth ar ganlyniadau y cytunwyd arnynt a mynd i'r afael â newidiadau i wella gwasanaethau i unigolion
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi pan fydd unigolion yn defnyddio gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- theorïau sy’n berthnasol i hybu’r defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu’r defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu’r defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu’r defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu’r defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu’r defnydd o wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD324
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cyfieithu, Cyfieithu ar y pryd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu