Hybu mynediad at eiriolaeth a chynrychiolaeth annibynnol

URN: HSCCLD323
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion i gefnogi unigolion i gael mynediad at gynrychiolaeth annibynnol neu ystod o wasanaethau eiriolaeth er mwyn helpu i gyflwyno eu hanghenion a’u dewisiadau. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion i nodi canlyniadau a gwerthuso’r cymorth maent wedi’i gael.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill o ran cefnogi unigolion i gael mynediad at eiriolaeth a chynrychiolaeth annibynnol  
  2. cefnogi unigolion i nodi eu dewisiadau ac anghenion a all gael eu cynrychioli gan gynrychiolwyr annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth  
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i adolygu pwrpas ac ystod y cymorth a all gael ei ddarparu gan gynrychiolwyr annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth  
  4. cefnogi unigolion i nodi manteision ymgysylltu â chynrychiolwyr annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth  
  5. trafod ac adolygu’r gweithdrefnau a’r ymarferion sy’n ymwneud â chael gafael ar gynrychiolwyr annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth, a’u defnyddio
  6. cefnogi unigolion i wneud dewisiadau gwybodus am y math o wasanaeth maent yn dymuno'i ddefnyddio  
  7. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i ystyried gwrthdaro buddiannau posibl neu heriau â’r gwasanaeth maent yn dymuno’i ddefnyddio
  8. grymuso unigolion i gysylltu â gwasanaethau posibl i ddod o hyd i gynrychiolaeth addas ac i ddewis gwasanaethau sy’n cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion  
  9. paratoi gwybodaeth i gyflwyno dewisiadau ac anghenion unigolion i wasanaethau penodol
  10. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddewis gwasanaethau penodol
  11. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i roi adborth ar sut mae gwasanaethau wedi cwrdd â’u dewisiadau a'u hanghenion, gan nodi unrhyw newidiadau sy’n ofynnol a mynd i’r afael â nhw
  12. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu mynediad at gynrychiolaeth annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth
  13. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu mynediad at eiriolaeth a chynrychiolaeth annibynnol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. hawl yr unigolyn i ddewis, defnyddio a gwrthod cynrychiolaeth annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth  
  2. sut mae cael gafael ar wybodaeth i gefnogi unigolion i ddewis cynrychiolaeth annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth, a sut mae gwerthuso’r wybodaeth honno
  3. rolau a chyfyngiadau cynrychiolaeth annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth
  4. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i ddefnyddio cynrychiolaeth annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth
  5. y ffactorau sy’n effeithio ar allu unigolyn i gynrychioli ei farn, ei ddewisiadau a’i anghenion ei hun, a rôl cynrychiolaeth annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth wrth eu cefnogi  
  6. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion â chynrychiolaeth annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth
  7. dylanwad diwylliant a chefndir ar gynrychiolaeth annibynnol neu wasanaethau eiriolaeth sydd ar gais unigolyn
  8. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar gynrychiolaeth annibynnol a’r gwasanaethau eiriolaeth sydd eu hangen
  9. y ffyrdd y gall cynrychiolaeth annibynnol a gwasanaethau eiriolaeth gefnogi annibyniaeth unigolion  
  10. ffyrdd o gefnogi unigolion i asesu a oes angen eiriolaeth neu gynrychiolaeth annibynnol arnynt  
  11. sut mae cefnogi unigolion i wneud dewisiadau gwybodus am y cymorth a’r gwasanaeth mwyaf addas ar eu cyfer  
  12. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth weithio ag eiriolaeth neu gynrychiolaeth annibynnol
  13. ffyrdd o rymuso unigolion i roi adborth ar sut mae gwasanaethau wedi cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
  14. sut mae ymateb i faterion neu bryderon wrth hybu mynediad at eiriolaeth neu gynrychiolaeth annibynnol
  15. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu mynediad at eiriolaeth neu gynrychiolaeth annibynnol
  16. theorïau sy’n berthnasol i hybu mynediad at eiriolaeth neu gynrychiolaeth annibynnol  
  17. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu mynediad at eiriolaeth neu gynrychiolaeth annibynnol
  18. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu mynediad at eiriolaeth neu gynrychiolaeth annibynnol
  19. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth hybu mynediad at eiriolaeth neu gynrychiolaeth annibynnol
  20. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu mynediad at eiriolaeth neu gynrychiolaeth annibynnol, a sut i fynd i’r afael â hyn
  21. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu mynediad at eiriolaeth neu gynrychiolaeth annibynnol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD323

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Eiriolaeth, Cynrychiolaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu