Gweithio ag unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd
URN: HSCCLD322
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd. Mae hyn yn cynnwys paratoi unigolion i symud, eu cefnogi i ymgartrefu, ac yna gweithio gyda nhw i adolygu effaith eu hamgylchedd newydd ar eu llesiant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi eu dewisiadau a’u hanghenion mewn perthynas â symud i amgylcheddau byw newydd
- cefnogi ac annog unigolion ac eraill i gael gafael ar wybodaeth am amgylcheddau byw newydd
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gynllunio symud i amgylcheddau byw newydd
- annog unigolion ac eraill i nodi heriau wrth symud i amgylcheddau byw newydd, a mynd i'r afael â'r rhain
- cefnogi unigolion i nodi cryfderau a’r adnoddau sydd ar gael i’w helpu i symud i amgylcheddau byw newydd
- cefnogi unigolion ac eraill i ymweld ag amgylcheddau byw newydd a gofyn cwestiynau
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer amgylcheddau byw newydd
- hybu ac annog annibyniaeth unigolion i ymgartrefu mewn amgylcheddau newydd
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i roi gwybod sut mae’r amgylchedd byw newydd wedi cwrdd â’u dewisiadau a'u hanghenion, nodi unrhyw newidiadau a mynd i’r afael â nhw
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio ag unigolion i symud i amgylchedd byw newydd
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau i weithio ag unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam mae unigolion yn symud i amgylcheddau byw newydd
- y mathau o amgylcheddau byw newydd y gall unigolion symud iddynt a sut y ceir gafael arnynt
- egwyddorion pontio a newid a sut mae cefnogi unigolion â hyn
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd
- y mathau o adnoddau y gallai fod eu hangen ar unigolion ar gyfer amgylcheddau byw newydd
- ffyrdd o gefnogi unigolion i ymgartrefu mewn amgylcheddau byw newydd
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i symud i amgylchedd byw newydd
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth symud i amgylchedd byw newydd
- sut mae pŵer a dylanwad yn gallu cael eu defnyddio a’u camddefnyddio wrth gefnogi unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd ac ymgartrefu yno
- rôl perthnasoedd a rhwydwaith cefnogi o ran llesiant unigolion
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth sydd ei angen i symud i amgylcheddau byw newydd
- dylanwad diwylliant a chefndir ar y cymorth sydd ei angen i symud i amgylcheddau byw newydd
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am amgylcheddau byw newydd, a sut mae adolygu a gwerthuso'r wybodaeth honno
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gael gafael ar wybodaeth, symud ac ymgartrefu mewn amgylcheddau byw newydd
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio ag unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd
- damcaniaethau sy'n berthnasol i weithio ag unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithio ag unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth weithio ag unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth weithio ag unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio ag unigolion i symud i amgylcheddau byw newydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD322
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Amgylcheddau byw, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu