Hybu mynediad at wasanaethau tai a llety

URN: HSCCLD321
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion wrth hybu mynediad at wasanaethau tai a llety. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion i nodi a chael mynediad at wasanaethau tai a llety addas. Mae hefyd yn cynnwys gweithio gyda gwasanaethau tai a llety i gwrdd â dewisiadau ac anghenion unigolion a chydweithio i werthuso'r gwasanaethau a ddarperir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am sefyllfa gyfredol unigolion o ran tai a llety
  2. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi gwasanaethau tai a llety i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion  
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau tai a llety
  4. annog a chefnogi unigolion ac eraill i adolygu a nodi eu dewisiadau o’r opsiynau sydd ar gael  
  5. cefnogi unigolion i nodi unrhyw heriau a allai effeithio ar y gwasanaethau tai a llety sydd eu hangen arnynt  
  6. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ddewis gwasanaethau tai a llety  
  7. annog a chefnogi unigolion ac eraill i gysylltu a chael mynediad at wasanaethau tai a llety  
  8. darparu gwasanaethau tai a llety gyda gwybodaeth berthnasol am unigolion
  9. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i roi gwybod a lwyddwyd i gwrdd â’u dewisiadau a'u hanghenion, a nodi a mynd i’r afael ag unrhyw newidiadau
  10. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau tai a llety
  11. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu mynediad at wasanaethau tai a llety

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y berthynas rhwng tai a llesiant unigolion
  2. natur y sector tai a dyletswyddau awdurdodau lleol i gefnogi unigolion i gael gafael ar dŷ
  3. y gwahanol fathau o dai a llety sydd ar gael a sut i gael gafael arnynt  
  4. sut mae cefnogi dewisiadau ac anghenion unigolion o ran tai a llety  
  5. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddewis gwasanaethau tai a llety  
  6. dylanwad diwylliant a chefndir ar y gwasanaethau tai a llety a ddefnyddir
  7. yr heriau a'r problemau y gall unigolion eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau tai a llety
  8. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i gael mynediad at wasanaethau tai a llety
  9. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gael mynediad at wasanaethau tai a llety
  10. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i gael mynediad at wasanaethau tai a llety
  11. y cymorth ariannol sydd ar gael i gefnogi unigolion â thai a llety  
  12. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i hybu mynediad at wasanaethau tai a llety
  13. sut mae adolygu a gwerthuso gwybodaeth am wasanaethau tai a llety  
  14. y cofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gael mynediad at wasanaethau tai a llety
  15. damcaniaethau sy’n berthnasol i hybu mynediad at wasanaethau tai a llety
  16. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu mynediad at wasanaethau tai a llety
  17. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu mynediad at wasanaethau tai a llety  
  18. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu mynediad at wasanaethau tai a llety  
  19. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu mynediad at wasanaethau tai a llety, a sut i fynd i’r afael â hyn
  20. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu mynediad at wasanaethau tai a llety

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD321

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwasanaethau tai, llety, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu