Cydlynu a chefnogi sesiynau therapi
URN: HSCCLD320
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gydlynu a chefnogi sesiynau therapi dan gyfarwyddyd therapydd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda therapyddion ac unigolion i gytuno ar sut y bydd therapïau a gweithgareddau therapi penodol yn cael eu cefnogi. Mae hefyd yn cynnwys cyfrannu at werthuso sesiynau therapi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gydlynu a chefnogi sesiynau therapi i unigolion
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am sesiynau therapi a gweithgareddau
- gweithio mewn partneriaeth i gadarnhau’r canlyniadau y bydd sesiynau therapi yn ceisio’u cyflawni yn unol â dewisiadau, anghenion a chynlluniau therapi unigolion
- gweithio â phawb sy’n ymwneud â’r mater i gytuno ar y cymorth mae unigolion yn ei ffafrio i gymryd rhan mewn sesiynau therapi
- cynorthwyo unigolion ac eraill i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn sesiynau therapi ac i ofyn cwestiynau
- hybu a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn sesiynau therapi
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i baratoi’r amgylchedd ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau sesiynau therapi
- annog, cynorthwyo ac arsylwi ar unigolion pan fyddant yn cymryd rhan mewn sesiynau therapi
- grymuso unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae sesiynau therapi wedi cwrdd â’u dewisiadau a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt
- rhoi canfyddiadau eich arsylwadau a rhoi adborth ar sut mae’r sesiynau therapi wedi cwrdd â’r canlyniadau y cytunwyd arnynt
- gweithio mewn partneriaeth i gytuno a gwneud y newidiadau sydd eu hangen i gefnogi anghenion unigolion i gymryd rhan mewn sesiynau therapi
- cymryd cyfrifoldeb i sicrhau bod amgylcheddau’n cael eu gadael yn daclus ac yn ddiogel ar ôl y sesiynau therapi
- glanhau a dychwelyd adnoddau i’r man storio, a chynorthwyo eraill i wneud hynny
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer sesiynau therapi
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gydlynu a chefnogi sesiynau therapi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahanol fathau o sesiynau therapi a’r canlyniadau maen nhw’n gobeithio eu cyflawni
- y rôl mae sesiynau therapi yn ei chwarae mewn perthynas â hunaniaeth a hunan-barch unigolion
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a sesiynau therapi, a’i hadolygu
- sut mae cael gafael ar asesiadau risg a chynlluniau rheoli risg ar gyfer sesiynau therapi, a’u dilyn, a chynorthwyo eraill i wneud hynny
- y mathau o sgiliau a hyfforddiant sydd eu hangen i gefnogi gweithgareddau therapi
- sut mae hybu a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn sesiynau therapi
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol drwy addasu sesiynau therapi
- sut mae ystyried anghenion unigolion o ran hygyrchedd er mwyn darparu amgylchedd diogel ar gyfer sesiynau therapi, a chefnogi eraill i wneud hynny
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar ddewis a chymryd rhan mewn sesiynau therapi
- y mathau o wybodaeth, adnoddau a chymorth a allai helpu unigolion ac eraill yn ystod sesiynau therapi, a sut i gael gafael arnynt
- pam a sut y dylid paratoi amgylcheddau ar gyfer sesiynau therapi, a’u gadael yn daclus ac yn ddiogel wedyn, a sut i gydlynu’r gwaith hwn
- pwysigrwydd sicrhau bod adnoddau gweithgareddau yn gweithio’n dda, ac yn cael eu defnyddio'n gywir
- sut mae hybu arferion cynaliadwy y gellir eu defnyddio ar gyfer sesiynau therapi
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion â sesiwn therapi
- sut mae hybu’r defnydd o ddyfeisiau ac adnoddau digidol i baratoi ar gyfer sesiynau therapi, a’u defnyddio yn ystod y sesiynau hynny ac wedyn
- sut mae cyflawni, cofnodi ac adrodd ynghylch arsylwadau yn ystod sesiynau therapi
- sut mae grymuso unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar sesiynau therapi
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn sesiynau therapi
- sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol yn ystod sesiynau therapi
- sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau effeithio ar y cymorth sydd ei angen ar gyfer sesiynau therapi
- damcaniaethau sy'n berthnasol i gydlynu a chefnogi sesiynau therapi
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cydlynu a chefnogi sesiynau therapi
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gydlynu a chefnogi sesiynau therapi
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn ystod sesiynau therapi
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod sesiynau therapi
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gydlynu a chefnogi sesiynau therapi, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gydlynu a chefnogi sesiynau therapi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD320
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Therapi, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu