Hybu gweithle iach a diogel

URN: HSCCLD32
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth hybu gweithle iach a diogel. Mae hyn yn cynnwys hybu iechyd a diogelwch yn y gweithle, cefnogi eraill i wneud hynny, a modelu arferion gweithio sy'n iach ac yn ddiogel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, unigolion ac eraill i hybu gweithle iach a diogel
  2. cael gafael ar weithdrefnau iechyd a diogelwch ac asesiadau risg a’u dilyn, a chefnogi eraill i wneud hynny  
  3. sicrhau eich hylendid personol, eich iechyd a’ch ymddangosiad i hybu gweithle iach a diogel, a chefnogi eraill i wneud hynny
  4. rheoli eich iechyd meddwl a llesiant meddyliol
  5. gofyn am gymorth mewn perthynas â phryderon yn y gweithle, a chefnogi eraill i wneud hynny  
  6. modelu arferion gorau i hybu diogelwch yn y gweithle, a chefnogi unigolion ac eraill i wneud hynny
  7. hybu’r defnydd o ddulliau adnabod yn y gweithle a bod yn ymwybodol o bwy sydd yno
  8. nodi peryglon iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwaith, a chefnogi unigolion ac eraill i wneud hynny
  9. asesu a gwerthuso’r risgiau sy’n gysylltiedig â pheryglon a nodwyd  
  10. rheoli’r risgiau a nodwyd yn unol â'ch rôl, eich cyfrifoldebau, eich lleoliad a phrosesau'r gweithle
  11. cefnogi unigolion neu eraill sy'n ymwneud â sefyllfaoedd peryglus a sicrhau unrhyw gymorth pellach  
  12. cyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i reoli peryglon nes byddant wedi cael eu datrys neu eu trosglwyddo i rywun arall  
  13. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i werthuso a chytuno ar gamau i atal neu leihau peryglon pellach  
  14. defnyddio’r camau y cytunwyd arnynt ac asesiadau risg i atal neu leihau peryglon, a chefnogi eraill i wneud hynny  
  15. paratoi ar gyfer argyfyngau o fewn eich maes cyfrifoldeb, yn unol â gweithdrefnau ac asesiadau risg y gweithle    
  16. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu gweithle iach a diogel  
  17. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu gweithle iach a diogel

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. agweddau ar eich hylendid, eich iechyd a’ch ymddangosiad eich hun a all hybu gweithle iach a diogel
  2. rôl atal a rheoli heintiau a chyfarpar diogelu personol wrth gefnogi gweithle iach a diogel
  3. sut mae cael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a chefnogi eraill i sicrhau hynny
  4. achosion cyffredin straen yn y gweithle
  5. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu gweithle iach a diogel
  6. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i hybu gweithle iach a diogel
  7. sut mae cael gafael ar weithdrefnau iechyd a diogelwch ac asesiadau risg a’u dilyn, a chefnogi eraill i wneud hynny
  8. rôl asesiadau risg o ran rheoli risgiau a chefnogi unigolion i gymryd risgiau cadarnhaol
  9. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar asesiadau risg iechyd a diogelwch    
  10. gwahanol fathau o beryglon iechyd a diogelwch a all godi yn eich gweithle  
  11. gwahanol fathau o argyfyngau a all godi yn eich gweithle  
  12. sut mae eich rôl, eich cyfrifoldebau a'ch lleoliad yn dylanwadu ar y ffordd rydych yn delio â sefyllfaoedd peryglus
  13. sut mae asesu a rheoli risgiau mewn sefyllfaoedd peryglus  
  14. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol mewn sefyllfaoedd brys a pheryglus
  15. ffyrdd o gynorthwyo unigolion ac eraill yn ystod sefyllfaoedd peryglus
  16. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu gweithle iach a diogel  
  17. eich cyfrifoldeb i gadw chi eich hun, unigolion ac eraill yn ddiogel yn y gweithle  
  18. dylanwad diwylliant a chefndir ar ganfyddiadau o beryglon iechyd a diogelwch  
  19. sut mae monitro pwy sydd yn y gweithle, ble maen nhw, a chefnogi eraill i wneud hynny
  20. y mathau o bryderon diogelwch a sut i ymdrin â nhw  
  21. ystyriaeth allweddol wrth weithio ar eich pen eich hun yn unol â gweithdrefnau'r gweithle
  22. y mathau o ymarferion argyfwng a pha mor aml y cânt eu cynnal, a’ch rôl wrth baratoi ar gyfer argyfyngau
  23. rôl asesiadau risg wrth baratoi ar gyfer argyfyngau
  24. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu gweithle iach a diogel
  25. damcaniaethau sy’n berthnasol i hybu gweithle iach a diogel  
  26. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu gweithle iach a diogel
  27. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu gweithle iach a diogel  
  28. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu gweithle iach a diogel
  29. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu gweithle iach a diogel, a sut i fynd i'r afael â hyn
  30. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu mewn gweithle iach a diogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD32

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithle, Iach, Diogel, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu