Hybu’r defnydd o wasanaethau a chyfleusterau

URN: HSCCLD319
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion wrth hybu mynediad at wasanaethau a chyfleusterau, a’r defnydd ohonynt. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion i nodi, dewis, cael mynediad a defnyddio'r gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt, ac yna’u gwerthuso.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi gwasanaethau a chyfleusterau a fydd yn mynd i’r afael â’u dewisiadau a’u hanghenion  
  2. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau  
  3. cefnogi unigolion ac eraill i adolygu a nodi dewisiadau o’r opsiynau sydd ar gael  
  4. cefnogi unigolion ac eraill i nodi unrhyw heriau a allai effeithio ar fynediad at wasanaethau a chyfleusterau  
  5. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ddewis y gwasanaethau a’r cyfleusterau maent yn dymuno cael mynediad atynt
  6. grymuso a chefnogi unigolion ac eraill i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau, a’u defnyddio  
  7. annog unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae gwasanaethau a chyfleusterau wedi cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion  
  8. nodi a mynd i’r afael â newidiadau i gefnogi unigolion i gael mynediad at wasanaethau neu gyfleusterau, a’u defnyddio
  9. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu’r defnydd o wasanaethau a chyfleusterau
  10. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu’r defnydd o wasanaethau a chyfleusterau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael
  2. sut mae cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau  
  3. sut mae adolygu a gwerthuso gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
  4. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddewis gwasanaethau a chyfleusterau  
  5. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar ddewis gwasanaethau a chyfleusterau
  6. sut mae pŵer a dylanwad yn gallu cael eu defnyddio a’u camddefnyddio wrth gefnogi unigolion ac eraill i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau
  7. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion ac eraill i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau, a’u defnyddio  
  8. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau  
  9. sut mae ymateb i bryderon am wahaniaethu, gweithredu neu ddiffyg gweithredu, a allai effeithio ar unigolion sy’n cael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau ac sy’n eu defnyddio
  10. sut y gall gwasanaethau a chyfleusterau ddylanwadu ar lesiant unigolion
  11. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau, a’u defnyddio  
  12. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i hybu’r defnydd o wasanaethau
  13. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu’r defnydd o wasanaethau a chyfleusterau  
  14. damcaniaethau sy’n berthnasol i hybu’r defnydd o wasanaethau a chyfleusterau
  15. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu’r defnydd o wasanaethau a chyfleusterau  
  16. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu’r defnydd o wasanaethau a chyfleusterau  
  17. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu’r defnydd o wasanaethau a chyfleusterau
  18. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu’r defnydd o wasanaethau a chyfleusterau, a sut i fynd i'r afael â hyn
  19. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu’r defnydd o wasanaethau a chyfleusterau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD319 

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwasanaethau, Cyfleusterau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu