Hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol
URN: HSCCLD318
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol i gefnogi annibyniaeth unigolion. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion i nodi cymhorthion technolegol, dyfeisiau ac adnoddau digidol addas i hybu eu hannibyniaeth. Mae hefyd yn cynnwys cefnogi unigolion i ddefnyddio, gwerthuso ac adolygu’r cymhorthion technolegol, dyfeisiau ac adnoddau digidol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi unigolion i ddefnyddio, gwerthuso ac adolygu technoleg ddigidol
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac anghenion unigolion o ran cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gadarnhau sut y gall cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol gefnogi annibyniaeth unigolyn yn unol â’i ddewisiadau a’i gynllun gofal neu gymorth
- gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar sut y byddir yn cael gafael ar gymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol, yn ogystal â’u gosod a’u defnyddio, yn unol â dewisiadau ac anghenion yr unigolyn mewn perthynas â’r dechnoleg
- cefnogi unigolion i nodi a chael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddewis a defnyddio cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i nodi a dewis cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- adolygu neu gwblhau asesiadau risg ar gyfer cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- cymryd cyfrifoldeb dros y gwaith o gefnogi unigolion ac eraill i nodi, gosod a chael mynediad at amgylcheddau sy’n barod ar gyfer cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- cefnogi unigolion ac eraill i gael gafael ar gymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol, a'u defnyddio
- cefnogi unigolion i ddefnyddio eu hunaniaeth ddigidol eu hunain
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ddefnyddio cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddefnyddio cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- annog a chefnogi unigolion pan fyddant yn defnyddio cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- cefnogi unigolion ac eraill i storio cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- cefnogi unigolion ac eraill i adael amgylcheddau’n lân ac yn daclus ar ôl eu defnyddio
- cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae technoleg ddigidol yn cwrdd â dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a gwneud newidiadau i gefnogi annibyniaeth unigolion â thechnoleg ddigidol
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac anghenion unigolion mewn perthynas â thechnoleg ddigidol, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am gymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol, gan gynnwys arferion cynaliadwy, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno
- rôl technoleg ddigidol a sut mae adnabod cyfleoedd ar gyfer arloesedd digidol yn y gweithle
- y risgiau posibl i unigolion ac eraill wrth ddefnyddio cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- sut mae adolygu neu gwblhau asesiadau risg ar gyfer cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- yr arferion gorau i gefnogi unigolion i ddatblygu eu hunaniaeth ddigidol
- y mathau o wybodaeth, adnoddau a chymorth a allai helpu unigolion i ddewis a defnyddio cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol drwy ddefnyddio technoleg ddigidol
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddewis technoleg ddigidol a'i defnyddio
- y gwahanol fathau o gymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol a’r effaith gadarnhaol ar unigolion
- sut mae defnyddio amrywiaeth o gymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- y mathau o amgylcheddau sydd fwyaf addas ar gyfer defnyddio cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- yr adnoddau sydd eu hangen i osod cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- y dulliau i ddod o hyd i ddiffygion a chael diagnosis gyda chymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- y gwahanol sgiliau y gall eraill eu cynnig wrth ddefnyddio technoleg ddigidol a sut i ddefnyddio'r sgiliau hyn
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion i ddefnyddio technoleg ddigidol
- sut mae monitro ymgysylltiad unigolion â chymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i ddewis technoleg ddigidol a’i defnyddio
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth ddefnyddio technoleg ddigidol
- sut mae gweithio ar y cyd ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar y cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau effeithio ar yr ymgysylltiad a’r cymorth sydd ei angen ar unigolion i ddefnyddio cymhorthion technolegol, dyfeisiau neu adnoddau digidol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol
- damcaniaethau sy’n berthnasol i hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu’r defnydd o dechnoleg ddigidol, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth arwain ar ddefnyddio technoleg ddigidol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD318
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
technoleg digidol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu