Hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
URN: HSCCLD317
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i nodi eu dewisiadau a’u hanghenion mewn perthynas â dysgu a datblygu neu gyflogaeth, a’u cefnogi i gael gafael ar gyfleoedd. Mae hefyd yn cynnwys cefnogi unigolion i baratoi, ymgymryd â chyfleoedd, a’u gwerthuso.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth gael gafael ar gyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am gyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi canlyniadau dysgu a datblygu neu gyflogaeth sy’n cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- cefnogi unigolion i adolygu’r opsiynau sydd ar gael a dewis pa un sy'n cwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- adolygu neu gwblhau asesiadau risg a chefnogi cymryd risgiau cadarnhaol ar gyfer cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i gwrdd â’r bobl sy'n ymwneud â'r cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth, a gofyn cwestiynau
- grymuso unigolion i gael gafael ar geisiadau a’u cwblhau ar gyfer cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i baratoi ar gyfer cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth, a chynllunio ar eu cyfer, yn unol â’u dewisiadau a’u hanghenion
- cefnogi unigolion i roi adborth ar sut yr oedd cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth wedi cwrdd â’r canlyniadau a nodwyd
- rhoi eich adborth ar sut yr oedd cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth wedi cwrdd â’r canlyniadau a nodwyd
- cefnogi unigolion i nodi a mynd i’r afael â’r newidiadau sydd eu hangen i’r cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahanol fathau o gyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth a’r effaith gadarnhaol y gallant ei chael ar unigolion
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion â chyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a chyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth, a sut mae adolygu’r wybodaeth honno
- sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion i ddewis, cynllunio a chymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- sut mae cefnogi niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol drwy gyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- dylanwad diwylliant a chefndir ar ddewis a chymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- y mathau o wybodaeth, adnoddau a chymorth a allai helpu unigolion i ddewis a chymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth, a sut i gael gafael arnynt
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol ar gyfer cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
- rôl asesiadau risg a chymryd risgiau cadarnhaol mewn cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i roi adborth ar gyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
- newidiadau i ddewisiadau ac anghenion sy'n effeithio ar fynediad a chyfranogiad mewn cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth, a sut mae cefnogi’r rhain
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol yn ystod cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth
- damcaniaethau sy'n berthnasol i hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill wrth hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu cyfleoedd dysgu a datblygu neu gyflogaeth ar gyfer unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD317
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cyfleoedd dysgu, datblygu, cyflogaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu