Gweithio ag unigolion i reoli eu materion ariannol
URN: HSCCLD316
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth weithio mewn partneriaeth ag unigolion i reoli eu materion ariannol. Mae hyn yn cynnwys gweithio ag unigolion ac eraill i gael gafael ar wybodaeth a chyngor am wasanaethau ariannol, budd-daliadau, lwfansau neu daliadau uniongyrchol a'u cynorthwyo i reoli a monitro eu harian eu hunain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gael gafael ar wybodaeth i reoli a monitro eu materion ariannol yn unol â’u dewisiadau a’u hanghenion
- cefnogi unigolion ac eraill i nodi’r budd-daliadau, y lwfansau neu’r taliadau uniongyrchol y gallent fod â hawl iddynt
- cefnogi unigolion ac eraill i adolygu a nodi dewisiadau o’r opsiynau sydd ar gael
- annog unigolion ac eraill i nodi unrhyw bryderon neu risgiau a allai effeithio ar fynediad at wasanaethau ariannol, budd-daliadau, lwfansau neu daliadau uniongyrchol
- cefnogi unigolion ac eraill i ddarparu’r wybodaeth berthnasol er mwyn cael mynediad at wasanaethau ariannol, budd-daliadau, lwfansau neu daliadau uniongyrchol
- cefnogi annibyniaeth unigolion i ddefnyddio gwasanaethau ariannol, budd-daliadau, lwfansau neu daliadau uniongyrchol i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- annog unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae gwasanaethau ariannol, budd-daliadau, lwfansau neu daliadau uniongyrchol wedi cwrdd â’u hanghenion
- grymuso unigolion ac eraill i adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw newidiadau i gefnogi mynediad at wasanaethau ariannol, budd-daliadau, lwfansau neu daliadau uniongyrchol
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio ag unigolion i reoli eu materion ariannol
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau i weithio ag unigolion i reoli eu materion ariannol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- dulliau cadw cofnodion a manylion taliadau a derbynebau
- dulliau cyllidebu sy'n dderbyniol ac yn addas i unigolion
- dulliau rheoli dyledion a gwneud taliadau
- dulliau storio arian yn ddiogel sy'n dderbyniol i unigolion ac sy'n dilyn gofynion y gweithle
- y gwahanol fudd-daliadau, lwfansau neu daliadau uniongyrchol sydd ar gael a sut y gallant gwrdd ag anghenion unigolion
- sut mae darparu cymorth gydag unrhyw gyfyngiad y gall budd-daliadau, lwfansau neu daliadau uniongyrchol ei osod ar unigolion
- sut y gellir defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gynorthwyo unigolion i reoli eu materion ariannol
- sut mae adolygu a gwerthuso gwybodaeth am wasanaethau ariannol, budd-daliadau, lwfansau neu daliadau uniongyrchol
- sut mae cynorthwyo unigolion i ddarparu gwybodaeth berthnasol i gael mynediad at wasanaethau, budd-daliadau, lwfansau neu daliadau uniongyrchol
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i annog unigolion i reoli eu materion ariannol
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth annog unigolion i reoli eu materion ariannol
- sut mae cefnogi unigolion i fynegi eu hanghenion a’u dewisiadau mewn perthynas â’u materion ariannol
- dylanwad diwylliant a chefndir ar sut mae unigolion yn rheoli eu materion ariannol
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth mae unigolion ei angen i reoli eu materion ariannol
- sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol wrth reoli materion ariannol
- risgiau i unigolion wrth ddefnyddio gwasanaethau ariannol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i weithio ag unigolion i reoli eu materion ariannol
- damcaniaethau sy’n berthnasol i weithio ag unigolion i reoli eu materion ariannol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer gweithio ag unigolion i reoli eu materion ariannol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth weithio ag unigolion i reoli eu materion ariannol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i weithio ag unigolion i reoli eu materion ariannol
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gynorthwyo unigolion i reoli eu materion ariannol
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth weithio ag unigolion i reoli eu materion ariannol, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth weithio ag unigolion i reoli eu materion ariannol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD316
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
rheoli materion ariannol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu