Darparu amgylchedd cartref i unigolion
URN: HSCCLD315
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion pan fyddwch yn rhoi cartref i unigolion sydd angen gofal neu gymorth. Mae'r safon yn cynnwys croesawu unigolion i'ch cartref a'u cynorthwyo i ymgartrefu. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd nodi anghenion, cefndir a phrofiad unigolion a'r cymorth y gallai fod ei angen ar eraill i addasu a chroesawu'r unigolyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth gan drefnwyr lleoliadau am unigolion a thelerau ac amodau’r lleoliadau
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau pawb sy’n ymwneud â darparu amgylcheddau cartref i unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi eu dewisiadau, anghenion ac unrhyw bryderon
- myfyrio ag eraill yn y tŷ ynghylch sut y gallai bywyd a threfniadau byw newid, a nodi'r cymorth sydd ei angen
- croesawu unigolion i'ch cartref
- cyflwyno unigolion i eraill mewn ffyrdd sy'n dangos parch at bawb
- annog eraill i groesawu a chynnwys unigolion fel aelodau o’r cartref
- cefnogi unigolion i ymgartrefu drwy roi amser, lle a chefnogaeth i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- darparu lle yn y tŷ sy'n bersonol i unigolion lle gallant gadw eu heiddo
- trafod y trefniadau byw a'r rheolau sylfaenol y mae'r aelwyd yn cadw atynt gydag unigolion ac eraill
- gweithio mewn partneriaeth i ystyried sut y gellir cwrdd â dewisiadau, anghenion a diogelwch cartrefi, a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon
- annog a chefnogi unigolion ac eraill i nodi manteision bod yn rhan o aelwyd, a hynny iddynt eu hunain ac i eraill
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi’r canlyniadau maent yn dymuno gweithio atynt tra eu bod yn rhan o’r aelwyd
- cefnogi unigolion i gynnal ac ehangu eu cysylltiadau cymdeithasol
- annog a chefnogi annibyniaeth unigolion yn eu bywydau bob dydd
- grymuso a chefnogi unigolion ac eraill i gyflawni’r canlyniadau maent wedi’u gosod
- cefnogi unigolion ac eraill i werthuso sut mae pethau’n mynd â’r lleoliadau ac unrhyw newidiadau sydd eu hangen i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer darparu amgylchedd cartref i unigolion
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i ddarparu amgylchedd cartref i unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth a chymorth wrth baratoi i ddarparu amgylcheddau cartref i unigolion, a sut i adolygu’r wybodaeth honno
- sut mae canfod a oes modd darparu ar gyfer dewisiadau ac anghenion unigolion yn amgylchedd eich cartref
- sut mae cydbwyso dewisiadau ac anghenion unigolion ac eraill yn amgylchedd eich cartref gan gynnal cyfrinachedd
- addasiadau amgylcheddol gwahanol a allai fod yn ofynnol i unigolion mewn cartrefi
- yr effaith ar eraill yn y cartref a sut i'w paratoi ar gyfer yr adeg y bydd unigolion yn symud i mewn
- y cymorth sydd ar gael drwy ddarparwyr lleoliadau
- sut mae hybu’r broses o integreiddio unigolion i’ch cartref
- dylanwad diwylliant, cefndir a ysbrydolrwydd ar integreiddio i’ch cartref
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ddarparu amgylchedd cartref i unigolion
- rôl perthnasoedd ar lesiant unigolion a’r ystyriaethau posibl
- effaith tarfu ar unigolion ac eraill, gan gynnwys tarfu ar leoliadau
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion mewn amgylcheddau cartref
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth integreiddio i aelwydydd
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol wrth ddarparu amgylcheddau cartref i unigolion
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer darparu amgylchedd cartref i unigolion
- damcaniaethau sy’n berthnasol i ddarparu amgylchedd cartref i unigolion
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer darparu amgylchedd cartref i unigolion
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth ddarparu amgylchedd cartref i unigolion
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ddarparu amgylchedd cartref i unigolion
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth ddarparu amgylchedd cartref i unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth ddarparu amgylchedd cartref i unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD315
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
amgylchedd cartref, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu