Hybu bywyd bob dydd gartref

URN: HSCCLD314
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion ar gyfer cefnogi unigolion i reoli eu gweithgareddau bywyd bob dydd yn ddiogel ac yn annibynnol ac i barhau i fyw gartref. Mae'n cynnwys helpu unigolion i adennill, cynnal a datblygu sgiliau a hyder, gosod a tracio goliau, ac addasu cymorth yn ôl yr angen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cefnogi unigolion i nodi eu dewisiadau a chanlyniadau ar gyfer rheoli eu bywyd bob dydd gartref
  2. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i asesu eu gallu, eu diogelwch a’u hannibyniaeth gartref
  3. cefnogi unigolion ac eraill i nodi a chynllunio sut i adennill, cynnal a datblygu eu sgiliau
  4. gweithio ag unigolion ac eraill i gytuno ar goliau y gellir eu cyflawni a chanlyniadau y gellir eu mesur  
  5. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a chael gafael ar y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen  
  6. cytuno ag unigolion ac eraill ar sut y bydd goliau a chanlyniadau'n cael eu monitro a'u hadolygu  
  7. grymuso unigolion i ymgymryd â gweithgareddau mewn ffyrdd sy’n hybu eu diogelwch, eu hannibyniaeth a’u hyder  
  8. arsylwi ar unigolion yn ymgymryd â’u gweithgareddau bob dydd a monitro cynnydd
  9. nodi ac annog cynnydd a chyflawniadau unigolion
  10. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i fonitro risgiau a newidiadau ac adolygu eu goliaua’u canlyniadau  
  11. gweithio ag unigolion ac eraill i gytuno ar newidiadau o ran cymorth ac adnoddau
  12. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu bywyd bob dydd gartref  
  13. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu bywyd bob dydd gartref

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gwybod am ddewisiadau unigolion a chanlyniadau ar gyfer bywyd bob dydd gartref
  2. sut mae cefnogi unigolion i nodi eu gallu, eu diogelwch a’u hannibyniaeth
  3. pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i gynllunio’r gwaith o ddatblygu sgiliau
  4. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth mae unigolion ei angen i reoli eu bywyd bob dydd
  5. yr amrywiaeth o adnoddau, gwasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael a all gefnogi unigolion i reoli eu bywyd bob dydd  
  6. sut mae cael gafael ar wybodaeth a chyngor am faterion domestig, personol, cymdeithasol ac ariannol
  7. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi’r unigolyn i reoli ei fywyd bob dydd
  8. sut mae sefydlu meini prawf clir a mesuradwy i asesu cynnydd tuag at ganlyniadau
  9. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i genogi unigolion i reoli eu bywyd bob dydd gartref
  10. egwyddorion asesiadau risg a rheoli risgiau
  11. rôl perthnasoedd a rhwydweithiau cefnogi o ran hybu llesiant ac annibyniaeth unigolion  
  12. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar fywyd bob dydd  
  13. sut mae cefnogi, annog ac ysgogi unigolion i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau i reoli bywyd bob dydd  
  14. pwysigrwydd atgyfnerthu cryfderau a chynnydd mewn ffordd gadarnhaol
  15. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i reoli eu bywyd bob dydd
  16. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol mewn bywyd bob dydd  
  17. egwyddorion ail-alluogi
  18. dulliau tracio cynnydd, casglu tystiolaeth a rhoi adborth i lywio canlyniadau gwerthusiadau
  19. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i werthuso cymorth, adnoddau a chanlyniadau
  20. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu bywyd bob dydd gartref
  21. damcaniaethau sy’n berthnasol i hybu bywyd bob dydd gartref
  22. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu bywyd bob dydd gartref
  23. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion i reoli eu bywyd bob dydd
  24. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu bywyd bob dydd gartref
  25. sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu bywyd bob dydd gartref, a sut i fynd i'r afael â hyn
  26. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu bywyd bob dydd gartref

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD314

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

bywyd bob dydd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu