Hybu annibyniaeth â meddyginiaeth

URN: HSCCLD313
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth hybu annibyniaeth unigolion i ddefnyddio meddyginiaeth a hunanfeddyginiaethu. Mae'r safon yn cynnwys paratoi a chynorthwyo ar gyfer rhoi meddyginiaeth, yn ogystal â rhoi arferion diogel ar waith i sicrhau bod cyflenwadau meddyginiaeth yn cael eu derbyn, eu storio a'u gwaredu'n ddiogel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i hybu annibyniaeth unigolion i roi meddyginiaeth  
  2. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am unigolion a’u meddyginiaeth  
  3. adolygu neu gwblhau asesiadau risg meddyginiaeth i gefnogi annibyniaeth unigolion i hunan-weinyddu
  4. cefnogi unigolion ac eraill i gael gafael ar gyflenwadau o feddyginiaeth ar bresgripsiwn  
  5. cefnogi unigolion ac eraill i storio meddyginiaeth yn unol ag asesiadau risg a gofynion storio meddyginiaeth
  6. cefnogi unigolion ac eraill i sicrhau nad yw’r feddyginiaeth wedi mynd heibio ei dyddiad ac i waredu meddyginiaeth sydd heb gael ei defnyddio neu sy’n hen
  7. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i nodi sut, ble a phryd i hunanfeddyginiaethu yn unol ag asesiadau risg a gofynion y presgripsiwn
  8. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i gadarnhau’r adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i hunanfeddyginiaethu yn unol ag asesiadau risg a chynlluniau gofal neu gymorth
  9. dilyn dulliau atal a rheoli heintiau a ddefnyddir ar gyfer defnyddio meddyginiaeth, a chefnogi unigolion i wneud hynny  
  10. annog a chefnogi unigolion i hunanfeddyginiaethu yn unol ag asesiadau risg a chynlluniau gofal neu gymorth  
  11. arsylwi bod meddyginiaethau'n cael eu rhoi'n gywir yn unol â gofynion y presgripsiwn  
  12. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu annibyniaeth â meddyginiaeth
  13. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu annibyniaeth â meddyginiaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a meddyginiaeth
  2. sut mae asesiadau risg yn cael eu defnyddio i gefnogi annibyniaeth unigolion i hunanfeddyginiaethu
  3. manteision cefnogi’r unigolyn i hunanfeddyginiaethu yn ddiogel
  4. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma wrth gefnogi unigolion i hunanfeddyginiaethu
  5. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar y defnydd o feddyginiaeth
  6. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion i hunanfeddyginiaethu
  7. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth hunanfeddyginiaethu
  8. y mathau cyffredin o feddyginiaeth a’u defnydd cyffredinol  
  9. storio a gwaredu meddyginiaeth yn ddiogel
  10. y gwahanol ddulliau gweinyddu a’r mathau o feddyginiaeth
  11. yr adnoddau a all helpu i roi meddyginiaeth
  12. sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i hybu annibyniaeth â meddyginiaeth  
  13. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y defnydd o feddyginiaeth  
  14. rhagofalon hylendid a chanlyniadau posibl peidio â’u dilyn wrth ddefnyddio meddyginiaeth  
  15. sut mae adnabod ac ymateb i adwaith neu argyfwng iechyd gyda meddyginiaeth
  16. y cofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu annibyniaeth â meddyginiaeth
  17. damcaniaethau sy'n berthnasol i hybu annibyniaeth â meddyginiaeth
  18. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu annibyniaeth â meddyginiaeth
  19. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu annibyniaeth â meddyginiaeth
  20. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu annibyniaeth â meddyginiaeth
  21. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu annibyniaeth â meddyginiaeth, a sut i fynd i'r afael â hyn
  22. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu o ran hybu annibyniaeth â meddyginiaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD313

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

meddyginiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu