Hybu llesiant ysbrydol unigolion

URN: HSCCLD312
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion wrth hybu llesiant ysbrydol unigolion. Mae'n cynnwys adnabod, parchu a hybu ymdeimlad yr unigolyn o bwrpas ac ystyr, gan gynnwys ei foesau a'i werthoedd. Gall hyn gynnwys ffydd grefyddol, credoau a gwerthoedd personol, cysylltiad â natur neu gymryd rhan mewn arferion hunanofal sy'n hybu llesiant ysbrydol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am lesiant ysbrydol unigolion  
  2. hybu amgylchedd cynhwysol sy'n galluogi unigolion i fynegi eu dewisiadau a’u hanghenion ysbrydol
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ystyried beth mae llesiant ysbrydol yn ei olygu iddynt a’r effaith mae’n ei gael ar eu bywyd
  4. cefnogi unigolion i nodi sut y gellir cwrdd â’u hanghenion ysbrydol yn ogystal â’r moesau a’r gwerthoedd sy'n bwysig iddynt  
  5. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ddatblygu cynlluniau gofal neu gymorth sy'n cydnabod ac yn cwrdd â chredoau, arferion, moesau a gwerthoedd ysbrydol yr unigolyn
  6. defnyddio cynlluniau gofal neu gymorth i hybu credoau ac arferion ysbrydol unigolion i bobl eraill
  7. grymuso unigolion i gysylltu, cael mynediad ac adeiladu ar gysylltiadau ag amgylcheddau, cymunedau a gwasanaethau ar gyfer eu harferion ysbrydol
  8. hybu a chefnogi ymgysylltiad ac annibyniaeth unigolion â’u harferion ysbrydol
  9. cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar sut y llwyddir i gwrdd â’u dewisiadau a'u hanghenion ysbrydol  
  10. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gytuno ar unrhyw newidiadau a diweddaru cynlluniau gofal neu gymorth sy'n hybu eu llesiant ysbrydol
  11. cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer llesiant ysbrydol unigolion  
  12. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu llesiant ysbrydol unigolion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr hyn a olygir wrth y term llesiant ysbrydol a'r hyn y gellir ei gynnwys ynddo
  2. yr amrywiaeth o gredoau ac arferion a all gyfrannu at lesiant ysbrydol  
  3. sut y gall diwylliant a chefndir ddylanwadu ar arferion ysbrydol unigolion  
  4. y mathau o amgylcheddau, cymdeithasau a gwasanaethau a all gefnogi llesiant ysbrydol, a’u pwysigrwydd  
  5. sut mae cael mynediad at amgylcheddau, cymunedau a gwasanaethau ar gyfer llesiant ysbrydol unigolion, a meithrin cysylltiadau â nhw  
  6. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth hybu llesiant ysbrydol unigolion
  7. sut mae cael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac anghenion ysbrydol unigolion  
  8. sut mae hybu llesiant ysbrydol mewn cynlluniau gofal neu gymorth
  9. rôl gyffredinol llesiant ysbrydol ar fywyd unigolion
  10. dulliau hybu amgylchedd cynhwysol a pharchus i gefnogi dewisiadau ac anghenion ysbrydol
  11. amgylchiadau, amodau neu newidiadau a allai effeithio ar lesiant ysbrydol  
  12. ffyrdd o gefnogi unigolion pan fyddant yn, neu wedi gwynebu heriau gyda'u llesiant ysbrydol
  13. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth hybu llesiant ysbrydol  
  14. pwysigrwydd cefnogi unigolion i roi gwybod beth yw eu safbwynt unigryw a phrofiad o ran llesiant ysbrydol  
  15. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar ddewisiadau ac anghenion ysbrydol
  16. rôl perthnasoedd a rhwydweithiau cymdeithasol o ran hybu llesiant ysbrydol unigolion
  17. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu llesiant ysbrydol unigolion  
  18. sut y gellir defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi arferion ysbrydol
  19. sut mae adolygu cynlluniau gofal neu gymorth i gwrdd â dewisiadau ac anghenion ysbrydol yr unigolyn
  20. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu llesiant ysbrydol unigolion  
  21. damcaniaethau sy’n berthnasol i lesiant ysbrydol unigolion
  22. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu llesiant ysbrydol unigolion
  23. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu llesiant ysbrydol unigolion
  24. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu llesiant ysbrydol unigolion
  25. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu llesiant ysbrydol unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn  
  26. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu llesiant ysbrydol unigolion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD312

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

llesiant cymdeithasol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu