Hybu iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
URN: HSCCLD311
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth weithio gydag unigolion i ddylunio opsiynau wedi’u personoli ar gyfer rheoli eu hiechyd a’u llesiant cymdeithasol eu hunain. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion i nodi newidiadau i'w bywydau a'u hamgylchedd a all hybu eu hiechyd a'u llesiant cymdeithasol, eu cefnogi i greu’r canlyniadau a ddymunir, gwneud newidiadau buddiol, ac adolygu effeithiolrwydd y newidiadau hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cefnogi unigolion i fynegi’r hyn sy’n bwysig iddynt am eu hiechyd a’u llesiant cymdeithasol
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i nodi canlyniadau sy’n bwysig ar gyfer eu hiechyd a’u llesiant cymdeithasol
- annog unigolion i nodi eu cryfderau wrth reoli eu hiechyd a’u llesiant cymdeithasol eu hunain
- hybu annibyniaeth unigolion i archwilio agweddau ar eu bywyd a'u hamgylchedd sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles cymdeithasol
- nodi ffynonellau o wybodaeth a chymorth sy’n berthnasol i iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
- sicrhau bod gwybodaeth a chymorth ar gael i unigolion
- annog unigolion i nodi a rheoli risgiau i'w hiechyd a'u llesiant cymdeithasol
- cefnogi unigolion i nodi pa agweddau mae nhw’n gallu newid
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i nodi a chytuno ar ffyrdd i reoli agweddau dydyn nhw ddim yn gallu newid
- grymuso unigolion i nodi newidiadau yn eu bywyd a'u hamgylchedd a fyddai'n helpu i gyflawni eu canlyniadau
- cefnogi unigolion i nodi dulliau o ymdopi â rheoleiddio emosiynol
- cefnogi unigolion ac eraill i fynegi eu barn am risgiau sy’n gysylltiedig â’r opsiynau a ffefrir
- gweithio mewn partneriaeth i ymgymryd ag asesiadau risg gydag unigolion i gefnogi cymryd risgiau cadarnhaol
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi ffyrdd o adeiladu ar eu cryfderau
- cynllunio nodau tymor byr a thymor canolig, blaenoriaethau ac adnoddau ag unigolion ac eraill i gyflawni canlyniadau
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun, unigolion ac eraill i hybu iechyd a llesiant cymdeithasol
- cefnogi unigolion ac eraill i fonitro, gwerthuso a gwneud newidiadau i ganlyniadau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
- y gydberthynas rhwng ffactorau economaidd-gymdeithasol a ffactorau personol ac iechyd a llesiant cymdeithasol
- y ffactorau cymdeithasol a seicolegol sy'n gallu effeithio ar y gallu i hybu eu hiechyd a’u llesiant cymdeithasol eu hunain
- y ffactorau a allai wella a lleihau cymhelliant unigolion i newid a hybu eu hiechyd a'u llesiant cymdeithasol eu hunain
- sut mae creu mannau diogel i unigolion chwilio eu meddyliau a’u teimladau
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth ddatblygu iechyd a llesiant cymdeithasol
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth hybu iechyd a llesiant cymdeithasol
- pwysigrwydd deall safbwynt unigryw a phrofiad o ran eich iechyd a’ch llesiant cymdeithasol eich hun
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar iechyd a llesiant cymdeithasol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i ddeall a hybu eu hiechyd a’u llesiant cymdeithasol eu hunain
- ffyrdd o hybu cryfderau unigolion wrth reoli eu hiechyd a'u llesiant cymdeithasol eu hunain
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
- sut mae defnyddio dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi unigolion â’u hiechyd a’u llesiant cymdeithasol
- rheoli newid mewn perthynas ag amodau, anghenion ac amgylchiadau unigolion
- dulliau cynllunio a rhoi newidiadau ar waith gydag unigolion a’r effaith bosibl ar bobl eraill
- rôl perthnasoedd o ran meithrin gwytnwch a chryfderau
- yr ystod o wasanaethau a grwpiau cefnogi sydd ar gael i gefnogi iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion a sut i gael gafael arnynt
- ffyrdd o weithio mewn partneriaeth i gynllunio, monitro, adolygu a gwerthuso canlyniadau
- sut mae sefydlu meini prawf clir sy’n gallu cael eu mesur i asesu cynnydd tuag at ganlyniadau
- ffyrdd o atgyfnerthu cynnydd yn gadarnhaol tuag at ganlyniadau a mwy o hunanddibyniaeth
- sut mae casglu tystiolaeth ac adborth i lywio canlyniadau gwerthusiadau
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
- damcaniaethau sy’n berthnasol i hybu iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD311
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
llesiant cymdeithasol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu