Hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
URN: HSCCLD310
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion ar gyfer hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion. Mae'n cynnwys cefnogi unigolion i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol, meithrin gwytnwch a deall, mynegi a rheoleiddio emosiynau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu amgylcheddau cynhwysol, diogel a chroesawgar sy'n gwerthfawrogi unigolion ac yn eu cefnogi
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gytuno, cynllunio, monitro a gwerthuso canlyniadau tymor byr, tymor canolig a thymor hir ar gyfer cymorth sy'n ymwneud â llesiant emosiynol a chymdeithasol
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gynllunio, monitro a gwerthuso’u sgiliau cymdeithasol, sgiliau emosiynol a rheoleiddio emosiynol
- annog unigolion i archwilio, cydnabod a mynegi eu meddyliau, syniadau ac emosiynau
- cefnogi unigolion i fynegi eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol
- cefnogi unigolion i ofyn cwestiynau a gwneud dewisiadau gwybodus
- arsylwi a chefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol drwy sefyllfaoedd sy'n digwydd yn naturiol gydag eraill
- annog unigolion i adnabod emosiynau pobl eraill ac ymateb iddynt, gan hybu empathi ac ymatebion cefnogol
- ysgogi unigolion i gymryd rhan mewn tasgau, gweithgareddau, chwarae neu brofiadau newydd ystyrlon
- annog unigolion i ystyried gwybodaeth a risgiau cyn gweithredu
- dilysu emosiynau ac annog mynegiant emosiynol mewn ffyrdd sy'n lleihau niwed i unigolion ac eraill
- hybu gwytnwch drwy annog unigolion i fynd i'r afael â heriau, datrys gwrthdaro a dysgu o rwystrau
- modelu ac annog trafodaethau ac arferion adferol
- hybu cydnabyddiaeth o agweddau cadarnhaol bach mewn bywyd bob dydd er mwyn gwella'r ymdeimlad o fodlonrwydd ac optimistiaeth ymysg unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adrodd yn ôl am y cynnydd a wnaed tuag at ganlyniadau tymor byr, tymor canolig neu dymor hir ar gyfer cymorth sy'n ymwneud â llesiant emosiynol a chymdeithasol
- gweithio mewn partneriaeth i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r cymorth neu’r canlyniadau
- cwblhau’r cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae creu amgylcheddau diogel, cynhwysol a chroesawgar
- sut mae enwi emosiynau, gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu cynhwysol sy'n cwrdd â dewisiadau ac anghenion unigolion
- sut mae cynllunio, monitro a gwerthuso cymorth sy’n ymwneud â llesiant emosiynol a chymdeithasol
- rôl eiriolaeth, cymuned, rhwydweithiau cefnogi a thechnoleg ddigidol wrth gefnogi llesiant emosiynol a chymdeithasol
- sut mae arsylwi a nodi arwyddion o straen a thrallod
- sut mae adnabod a monitro ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu a mynegi emosiynau
- sut mae monitro patrymau ymddygiad yn cefnogi datblygiad strategaethau rhagweithiol ar gyfer rheoleiddio emosiynol
- y ffactorau amgylcheddol, datblygiadol a synhwyraidd a allai effeithio ar reoleiddio emosiynol
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar lesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- sut mae ffactorau cymdeithasol, corfforol ac economaidd yn dylanwadu ar ddatblygiad emosiynol a chymdeithasol a phrofiadau unigolion
- dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar lesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi mewn perthynas â llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- sut mae dilysu emosiynau unigolion a’u cefnogi i ddeall emosiynau pobl eraill
- sut mae cefnogi datblygiad sgiliau emosiynol a chymdeithasol
- egwyddorion rheoli risg a chymryd risgiau cadarnhaol
- pwysigrwydd eich llesiant a’ch diogelwch eich hun a phobl eraill
- sut mae cefnogi unigolion i wneud dewisiadau gwybodus ac ystyried anghenion pobl eraill
- gwerth gweithgareddau grŵp a phrofiadau newydd o ran datblygu llesiant emosiynol a chymdeithasol
- sut mae modelu ac annog sgyrsiau ac arferion adferol
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- damcaniaethau sy’n berthnasol i lesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- sut mae gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
- sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth hybu llesiant emosiynol a chymdeithasol unigolion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD310
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
llesiant emosiynol a chymdeithasol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu