Hybu cyfathrebu effeithiol
URN: HSCCLD31
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth hybu cyfathrebu effeithiol ar gyfer unigolion. Mae'n cynnwys nodi dewisiadau ac anghenion cyfathrebu'r unigolyn, cefnogi unigolion i gyfathrebu, a chyfathrebu'n effeithiol ag eraill drwy gofnodion ac adroddiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am ddewisiadau ac anghenion cyfathrebu unigolion
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gadarnhau dewisiadau ac anghenion cyfathrebu, yn unol â chynlluniau gofal neu gymorth
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi eu ffyrdd o weithio llafar a di-lafar wrth gyfathrebu
- trefnu amgylcheddau a'ch sefyllfa i gyfathrebu mor effeithiol â phosibl
- annog unigolion i gael gafael ar unrhyw gymorth, cymhorthion, dyfeisiau neu adnoddau digidol ar gyfer cyfathrebu, a'u defnyddio
- defnyddio ffyrdd o weithio sy'n addas i gynnwys a phwrpas y rhyngweithiadau wrth gyfathrebu
- cefnogi annibyniaeth unigolion i fynegi eu meddyliau ac emosiynau
- defnyddio lefel, tôn a chyflymder iaith addas i hybu cyfranogiad a chyd-ddealltwriaeth o'r rhyngweithiadau
- gwrando ac ymateb mewn ffordd sy'n dangos eich bod yn gwerthfawrogi ac yn parchu unigolion
- rhoi cymorth i unigolion i gyfathrebu ag eraill
- modelu rhyngweithiadau effeithiol ag unigolion ac eraill
- addasu eich ffyrdd o weithio i gwrdd â dewisiadau ac anghenion unigolion wrth gyfathrebu
- cefnogi unigolion ac eraill i roi gwybod a lwyddwyd i gwrdd â’u dewisiadau a'u hanghenion cyfathrebu, yn unol â chynlluniau gofal neu gymorth
- cefnogi unigolion ac eraill i drafod cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â nhw
- cyfnewid gwybodaeth ag eraill i lywio eu gwaith nhw a'ch gwaith chi
- cwblhau cofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cyfathrebu effeithiol
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth hybu cyfathrebu effeithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth a chymorth i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu
- sut mae gwahaniaethau a phrofiadau yn gallu effeithio ar y ffordd mae unigolion yn cyfathrebu
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar anghenion cyfathrebu ac iaith unigolion ac eraill
- dylanwad diwylliant a chefndir ar sgiliau cyfathrebu llafar a di-lafar unigolion ac eraill
- ffactorau sy'n gallu cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar sgiliau cyfathrebu a datblygiad iaith
- sut mae cyfathrebu’n gallu effeithio ar hunaniaeth a hunan-barch unigolion
- pa gamau i'w cymryd os yw cyfathrebu'n cyfleu straen neu drallod unigolion
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi o ran cyfathrebu effeithiol
- dulliau a thechnegau i hybu sgiliau cyfathrebu i alluogi unigolion i fynegi eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
- gwahanol fathau o gymhorthion, dyfeisiau ac adnoddau digidol i gefnogi wrth gyfathrebu
- sut mae amgylcheddau a lleoliadau’n gallu cefnogi ac atal gwahanol anghenion cyfathrebu
- sut mae trefnu amgylcheddau a safleoedd i gyfathrebu mor effeithiol â phosibl
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i hybu cyfathrebu effeithiol
- sut mae adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu
- sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth gyfathrebu
- rôl rhyngweithio wrth ddatblygu a chefnogi â sgiliau iaith a chyfathrebu unigolion
- pwysigrwydd chwarae neu weithgareddau o ran cefnogi â chyfathrebu effeithiol
- egwyddorion gwrando gweithredol
- sut mae cael caniatâd i weld cofnodion ac adroddiadau
- gofynion y gweithle ar gyfer cwblhau cofnodion ac adroddiadau
- y gwahaniaeth rhwng ffaith, barn a dyfarniad wrth gofnodi gwybodaeth
- pam mae cyfathrebu proffesiynol yn bwysig yn y gweithle
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai effeithio ar hawliau unigolion o ran cyfathrebu effeithiol
- damcaniaethau sy'n berthnasol i hybu cyfathrebu effeithiol
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer hybu cyfathrebu effeithiol
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth hybu cyfathrebu effeithiol
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hybu cyfathrebu effeithiol
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth hybu cyfathrebu effeithiol, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu o ran cyfathrebu effeithiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD31
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cyfathrebu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu