Cefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd

URN: HSCCLD29
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion i nodi'r cymorth sydd ei angen arnynt yn eu bywyd bob dydd ac yna eu cefnogi â gweithgareddau i hybu eu llesiant a'u hannibyniaeth. Mae'r safon yn cynnwys gweithio gydag unigolion i gael gafael ar unrhyw gymorth pellach sydd ei angen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd
  2. cefnogi unigolion ac eraill i ddisgrifio eu bywyd bob dydd a’r hyn yr hoffent ei gyflawni
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i ddod o hyd i beth mae unigolion yn gallu ei wneud drostynt ei hunain a gyda beth maen nhw angen cymorth  
  4. gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar sut y bydd y cymorth yn cael ei roi yn unol â dewisiadau ac asesiadau risg unigolion
  5. cefnogi unigolion i nodi a chael gafael ar y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt yn eu bywyd bob dydd
  6. rhoi’r cymorth y cytunwyd arno ar gyfer bywyd bob dydd
  7. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion yn eu gweithgareddau bywyd bob dydd
  8. cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae cymorth bywyd bob dydd wedi cwrdd â’u dewisiadau a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt  
  9. rhoi adborth ar sut roedd cymorth bywyd bob dydd wedi cwrdd â’r dewisiadau a’r canlyniadau yr oedd unigolion wedi cytuno arnynt
  10. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gytuno ar unrhyw newidiadau i’r cymorth bob dydd
  11. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion yn eu bob dydd
  12. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a’u bywyd bob dydd, a’i hadolygu a’i gwerthuso  
  2. dylanwad diwylliant, cefndir a ysbrydolrwydd unigolyn ar ei fywyd bob dydd
  3. sut mae cael gafael ar asesiadau risg a ddefnyddir ar gyfer bywyd bob dydd, a’u dilyn  
  4. sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion yn eu bywyd bob dydd
  5. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gynorthwyo unigolion yn eu bywyd bob dydd
  6. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol mewn bywyd bob dydd  
  7. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar y cymorth sydd ei angen mewn bywyd bob dydd
  8. y mathau o adnoddau a chymorth ychwanegol a allai helpu unigolion yn eu bywyd bob dydd a sut i gael gafael arnynt, gan gynnwys arferion cynaliadwy
  9. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd
  10. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar y cymorth yn eu bywyd bob dydd  
  11. sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar y cymorth yn eu bywyd bob dydd sydd ei angen
  12. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd
  13. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd
  14. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd
  15. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion yn eu bob dydd
  16. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd
  17. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi wrth gefnogi unigolion yn eu bob dydd
  18. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd, a sut i fynd i'r afael â hyn
  19. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi unigolion yn eu bywyd bob dydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD29

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Bywyd bob dydd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu