Cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion

URN: HSCCLD28
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion wrth gefnogi a diogelu hawliau unigolion. Mae'n cynnwys cefnogi unigolion i ddefnyddio eu hawliau a pharchu hawliau pobl eraill, meithrin diwylliant sy'n seiliedig ar hawliau ac sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd camau sy'n hybu ymddiriedaeth a hyder wrth gynnal yr hawliau hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynorthwyo unigolion i ddeall a mynegi eu hawliau, eu gwerthoedd, eu diwylliant, eu hysbrydolrwydd a'u dewisiadau  
  2. sicrhau bod unigolion yn gallu cael gafael ar y cymorth cyfathrebu neu eiriolaeth sydd ei angen arnynt  
  3. cefnogi hawliau unigolion i gyfathrebu yn eu dewis iaith a dull cyfathrebu  
  4. gwrando ac ymateb mewn ffyrdd sy'n dangos eich bod yn gwerthfawrogi ac yn parchu hawliau, gwerthoedd, diwylliant, ysbrydolrwydd a dewisiadau unigolion
  5. cynorthwyo unigolion i wneud dewisiadau a phenderfyniadau gwybodus am eu bywydau a’u llesiant ac i gymryd risgiau cadarnhaol  
  6. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i nodi a chael gafael ar adnoddau a chymorth i gwrdd â’u dewisiadau a’u hanghenion
  7. cefnogi hawliau unigolion i gael gafael ar wybodaeth a gedwir amdanynt ac i wneud sylwadau a chwynion  
  8. sicrhau bod hawliau, gwerthoedd, diwylliant, ysbrydolrwydd a dewisiadau unigolion wrth wraidd pob gweithred a phenderfyniad  
  9. cefnogi unigolion i ddefnyddio eu hawliau ac i barchu hawliau pobl eraill  
  10. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion i’w cefnogi i fynd i’r afael â heriau i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant  
  11. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
  12. myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw nodweddion gwarchodedig
  2. y gwahanol fathau o wahaniaethu a’r effaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
  3. effeithiau posibl stigma, stereoteipio, rhagfarn a labelu ar unigolion
  4. pwysigrwydd defnyddio ffyrdd o weithio i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion wrth gyfathrebu
  5. sut mae cefnogi rheoleiddio emosiynol wrth fynegi hawliau, gwerthoedd, diwylliant, ysbrydolrwydd a dewisiadau
  6. pwysigrwydd eiriolaeth a dehonglwyr i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau, a sut i gael gafael arnynt
  7. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
  8. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion  
  9. sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, chynhwysiant a hawliau unigolion  
  10. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, chynhwysiant a hawliau unigolion  
  11. sut mae grymuso unigolion i ddefnyddio eu hawliau a pharchu hawliau pobl eraill  
  12. dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
  13. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
  14. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
  15. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau
  16. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
  17. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion, a sut i fynd i’r afael â hyn
  18. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD28

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant, Hawliau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu