Cefnogi ymarfer sy’n ystyriol o drawma
URN: HSCCLD27
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi’r gofynion wrth gefnogi ymarfer sy’n ystyriol o drawma. Mae'n cynnwys cydnabod y gall unigolion ddioddef trawma ar unrhyw adeg yn eu bywydau, boed hynny yn ystod plentyndod neu ar ôl tyfu’n oedolion. Mae ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn gofyn am ddulliau cyfathrebu cynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar berthynas. Mae hyn yn cynnwys cefnogi adferiad drwy ddiogelwch, ymddiriedaeth a chydweithio, gan rymuso unigolion i gael dewis a rheolaeth yn eu bywydau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gafael ar wybodaeth ac adnoddau ynghylch dulliau sy’n ystyriol o drawma wrth ymarfer
- nodi effaith bosibl trawma ar unigolion wrth ddarparu gofal neu gymorth
- cyfrannu at greu amgylcheddau cynhwysol a diogel sy'n gwerthfawrogi unigolion ac yn eu cefnogi
- nodi a lleihau sbardunau amgylcheddol, seicolegol a synhwyraidd posibl sy'n gysylltiedig â thrawma unigolion
- cyfrannu at ddiwylliant gweithle o ddidwylledd, cydgefnogaeth ac arferion sy’n seiliedig ar hawliau
- rhoi dulliau adfer y cytunwyd arnynt ar waith a lleihau'r risg o wneud i unigolion ail-fyw’r trawma
- meithrin perthnasoedd cyson sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag unigolion a defnyddio egwyddorion ymarfer sy'n ystyriol o drawma
- defnyddio dulliau cyfathrebu cynhwysol sy’n cwrdd ag anghenion cymorth i gyfathrebu, diwylliant a dewisiadau unigolion
- defnyddio dulliau y cytunwyd arnynt i gefnogi adferiad, rheoleiddio emosiynol a lleihau'r risg o wneud i unigolion ail-fyw’r trawma
- parchu a chydnabod emosiynau a phrofiadau unigolion
- cefnogi ac annog unigolion i feithrin perthnasoedd a gwneud cysylltiadau cadarnhaol ag eraill
- cefnogi unigolion i adeiladu ar eu cryfderau a chael dewis a rheolaeth yn eu bywydau
- cefnogi unigolion i wneud penderfyniadau ac addasu i newid
- gweithio mewn partneriaeth ag unigolion wrth ddarparu gofal neu gymorth
- cyfrannu at ailddatgan cryfderau, ymdrechion a chyflawniadau unigolion
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi ymarfer sy’n ystyriol o drawma
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau wrth gefnogi ymarfer sy’n ystyriol o drawma, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ble i gael gafael ar wybodaeth ac adnoddau ynghylch dulliau sy’n ystyriol o drawma wrth ymarfer
- egwyddorion ymarfer sy'n ystyriol o drawma a sut i’w defnyddio i gynorthwyo unigolion
- mathau o ddigwyddiadau a phrofiadau a allai achosi trawma, gan gynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
- sut mae creu amgylcheddau cynhwysol a diogel sy'n gwerthfawrogi unigolion ac yn eu cefnogi
- effaith trawma ar yr ymennydd, y corff, ymddygiad ac ymatebion i straen
- y sbardunau amgylcheddol, seicolegol a synhwyraidd posibl sy'n gysylltiedig â thrawma
- arwyddion llafar a di-lafar unigolion a allai awgrymu trawma
- sut mae adnabod ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu
- pwysigrwydd defnyddio a hybu dulliau cyfathrebu cynhwysol sy’n cwrdd ag anghenion cymorth i gyfathrebu, diwylliant a dewisiadau unigolion
- eich rôl o ran cyfrannu at ddiwylliant o ddidwylledd, cydgefnogaeth ac arferion sy’n seiliedig ar hawliau yn y gweithle
- sut mae lleihau’r risgiau o wneud i unigolion ail-fyw’r trawma
- sut mae cryfhau gwytnwch unigolion a chefnogi eu hadferiad
- .rôl cymuned, diwylliant, rhwydweithiau a pherthnasoedd wrth hybu adferiad
- sut mae meithrin perthynas sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi ymarfer sy'n ystyriol o drawma
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar unigolion sydd wedi dioddef trawma
- dulliau a thechnegau ar gyfer datblygu rheoleiddio emosiynol
- sut mae defnyddio gwrando gweithredol, empathi ac iaith y corff wrth gefnogi unigolion sydd wedi dioddef trawma
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth gefnogi unigolion sydd wedi dioddef trawma
- sut mae gwella capasiti a gallu unigolion i ddatblygu ymddiriedaeth a gwneud cysylltiadau ag eraill
- sut mae grymuso unigolion i adeiladu ar eu cryfderau a chael dewis a rheolaeth yn eu bywydau
- rôl adborth o ran meithrin perthynas ddiogel a dibynadwy sy'n grymuso
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi ymarfer sy’n ystyriol o drawma
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi ymarfer sy’n ystyriol o drawma
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi ymarfer sy'n ystyriol o drawma
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi ymarfer sy’n ystyriol o drawma, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi ymarfer sy’n ymarfer ystyriol o drawma
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD27
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ymarfer, ystyriol o drawma, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu