Cefnogi effeithiolrwydd timau
URN: HSCCLD26
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo:
2026
Trosolwg
Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion wrth gefnogi effeithiolrwydd timau. Mae hyn yn cynnwys cytuno ar rolau a chyfrifoldebau unigol ac ar y cyd mewn timau, cydweithio'n effeithiol fel aelod o dîm, a chyfrannu at effeithiolrwydd, diwylliant a safonau uchel ymarfer proffesiynol y tîm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am dimau, canlyniadau, a gweledigaeth a phwrpas y gweithle
- nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill wrth gyfrannu at ganlyniadau timau ynghyd â gweledigaeth a phwrpas y gweithle
- cyflawni ymrwymiadau i eraill o fewn y blaenoriaethau gwaith y cytunwyd arnynt
- cyfrannu at gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau er mwyn dangos parch a gwerthfawrogiad at eraill
- cyfrannu at ddiwylliant o ddidwylledd, cydgefnogaeth, uniondeb a llesiant yn y gweithle
- cyfrannu at fodelu ymarfer proffesiynol
- defnyddio dulliau cyfathrebu proffesiynol effeithiol yn y gweithle
- cyfrannu at rannu syniadau, safbwyntiau a phryderon i weithio’n well mewn tîm
- gweithio mewn partneriaeth i reoli deinameg grŵp, datrys gwrthdaro a dod o hyd i atebion
- ymarfer hunanofal, rheoleiddio eich emosiynau a datblygu gwytnwch
- rhoi gwybod i eraill am gynnydd a wnaed at derfynau amser ac ymrwymiadau
- chwilio am gyfleoedd i rannu eich gwybodaeth a’ch sgiliau gydag eraill
- cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi effeithiolrwydd timau
- myfyrio ar sut y gwnaethoch gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i gefnogi effeithiolrwydd timau, gydag adborth gan eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae cael gafael ar wybodaeth am dimau, canlyniadau, a gweledigaeth a phwrpas y gweithle
- pwysigrwydd cytuno ar rolau a chyfrifoldebau unigol ac ar y cyd mewn timau
- sut mae cyfrannu at ddiwylliant o ddidwylledd, cydgefnogaeth, uniondeb a llesiant yn y tîm
- pwysigrwydd safonau ymarfer proffesiynol uchel
- pwysigrwydd arweinyddiaeth ar bob lefel yn y gweithle
- sut mae cyfrannu at werthusiadau tîm a'r gweithle
- sut mae ymgysylltu ag aelodau’r tîm a chyfathrebu'n glir ac yn gynhwysol
- dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar gefnogi effeithiolrwydd timau
- ffactorau sy’n creu amgylcheddau diogel ac sy’n annog rhannu syniadau a heriau
- pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol a deall safbwyntiau aelodau’r tîm
- pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth weithio gydag aelodau’r tîm
- yr egwyddorion sy'n sail i weithio'n effeithiol mewn tîm
- sut mae defnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma i gyfrannu at ddiwylliant tîm a gwaith tîm
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag aelodau’r tîm
- dulliau o ryngweithio a sut gallant effeithio ar waith tîm
- dylanwad diwylliant, cefndir ac ysbrydolrwydd ar y ffordd rydych yn gweithio gydag aelodau’r tîm
- sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi rhwng aelodau’r tîm
- pwysigrwydd rhoi gwybod i aelodau perthnasol o’r tîm pan nad ydych chi’n gallu cadw at derfynau amser ac ymrwymiadau
- technegau i gefnogi hunanofal, rheoleiddio emosiynol a gwytnwch yn wyneb rhwystrau
- sut mae cyfrannu at natur broffesiynol y timau
- y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all gefnogi effeithiolrwydd timau
- y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen i gefnogi effeithiolrwydd timau
- y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi effeithiolrwydd timau
- gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi effeithiolrwydd timau
- sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi effeithiolrwydd timau
- sut mae eich profiadau personol a'ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gefnogi effeithiolrwydd timau, a sut i fynd i'r afael â hyn
- rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gefnogi effeithiolrwydd timau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2031
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Care and Development
URN gwreiddiol
HSCCLD26
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Effeithiolrwydd, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu