Cefnogi unigolion gyda gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth

URN: HSCCLD25
Sectorau Busnes (Cyfresi): Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: Skills for Care & Development
Wedi'i gymeradwyo: 2026

Trosolwg

Mae'r safon hon yn amlinellu’r gofynion ar gyfer yr adegau pan fyddwch yn cefnogi unigolion i gyflawni gweithgareddau sydd wedi’u nodi yn eu cynllun gofal neu gymorth. Mae hyn yn cynnwys cyflawni'r rôl y gwnaethoch gytuno iddi, rhoi adborth a chyfrannu at ddiwygiadau ar gyfer y gweithgareddau rydych chi’n gyfrifol amdanynt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau eich hun ac eraill i gefnogi unigolion gyda gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth  
  2. cael caniatâd a chael gafael ar wybodaeth am unigolion a gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth  
  3. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gadarnhau’r canlyniadau y bydd y gweithgareddau’n anelu at eu cyflawni yn unol â chynlluniau gofal neu gymorth  
  4. gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar sut y bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal i gefnogi dewisiadau ac anghenion unigolion
  5. cefnogi unigolion i nodi ac i gael gafael ar yr wybodaeth, yr adnoddau neu’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth
  6. cyflawni gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth o fewn eich rolau a'ch cyfrifoldebau
  7. annog a chefnogi annibyniaeth unigolion mewn perthynas â gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth
  8. cefnogi unigolion ac eraill i roi adborth ar sut mae gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth yn cwrdd â’u dewisiadau, eu hanghenion a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt
  9. gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i gyfrannu at unrhyw newidiadau i weithgareddau cynllun gofal neu gymorth  
  10. cyfrannu at gofnodion ac adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth
  11. myfyrio ar sut y gwnaethoch chi gyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau i roi cymorth i unigolion gyda gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth, gydag adborth gan eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae cael gafael ar wybodaeth am unigolion a gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth, a’i hadolygu
  2. sut mae cael gafael ar asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth, a’u dilyn  
  3. sut mae annog a chefnogi annibyniaeth unigolion mewn perthynas â gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth
  4. dylanwad diwylliant, cefndir a daliadau ysbrydol ar weithgareddau cynllun gofal neu gymorth unigolion
  5. mathau o wybodaeth, adnoddau a chymorth a allai helpu unigolion yn ystod gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth, a sut i gael gafael arnynt
  6. dylanwad niwrowahaniaeth ac anghenion ychwanegol ar weithgareddau cynllun gofal neu gymorth unigolion
  7. y mathau o ddyfeisiau ac adnoddau digidol a all roi cymorth i unigolion mewn perthynas â gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth  
  8. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac eraill i adolygu a rhoi adborth ar weithgareddau cynllun gofal neu gymorth
  9. pwysigrwydd urddas, caredigrwydd a thosturi wrth roi cymorth i unigolion gyda’u gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth
  10. sut mae cynorthwyo rheoleiddio emosiynol yn ystod gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth  
  11. sut y gall newidiadau i ddewisiadau, amodau ac amgylchiadau unigolion effeithio ar weithgareddau cynllun gofal neu gymorth
  12. sut mae defnyddio egwyddorion sy’n ystyriol o drawma i gefnogi unigolion gyda’u gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth  
  13. y cofnodion a’r adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cefnogi unigolion â gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth
  14. y gofynion cyfreithiol, y safonau ymarfer, y fframweithiau a’r canllawiau perthnasol ar gyfer cefnogi unigolion â gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth  
  15. gofynion y gweithle mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau wrth gefnogi unigolion gyda’u gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth
  16. sut mae gweithio mewn partneriaeth ag eraill i roi cymorth i unigolion â gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth  
  17. sut mae ymateb i faterion a phryderon a allai godi yn ystod gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth  
  18. sut mae eich profiadau personol a’ch rhagfarn ddiarwybod yn gallu effeithio wrth gynorthwyo unigolion â gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth, a sut i fynd i'r afael â hyn
  19. rôl goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, a dysgu a datblygu wrth gynorthwyo unigolion â gweithgareddau cynllun gofal neu gymorth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r eirfa ar gyfer y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon ar gael ar wefan Sgiliau Gofal a Datblygu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2031

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Care and Development

URN gwreiddiol

HSCCLD25

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gweithgareddau, cynllun gofal, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, Dysgu a Datblygu